Ann Griffith

Ymgeisydd ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru

Ann Griffith yw ymgeisydd Plaid Cymru i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn 2016. Yn ystod ei chyfnod yn y swydd bu’n arwain ar Blant a Phobl Ifanc, Caethwasiaeth Fodern, Cam-drin Domestig a Safonau Proffesiynol. Hi oedd cadeirydd y Bwrdd Rheoli Troseddwyr Integredig.

Cymhwysodd Ann fel Gweithiwr Cymdeithasol seiciatrig ym 1984 ac ers deng mlynedd ar hugain mae wedi arbenigo mewn Amddiffyn Plant. Drwy gydol ei gyrfa hir mae hi wedi gweithio ochr yn ochr â’r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol i gefnogi dioddefwyr troseddau.

Mae ganddi ei busnes ei hun fel ymgynghorydd gofal cymdeithasol a hyfforddwr gweithredol ac mae'n ymgynghorydd cyswllt gyda Phrifysgol Oxford Brookes yn addysgu arweinyddiaeth i uwch reolwyr gofal cymdeithasol.

Mae Ann wedi ymrwymo i wella'r system cyfiawnder troseddol ar gyfer dioddefwyr. Mae hi'n credu mewn mwy o welededd gan yr heddlu, ymyrraeth gynnar a chynlluniau arloesol er mwyn datrys problemau. Byddai Ann yn craffu'r heddlu i wella meysydd ymchwilio i droseddau yn enwedig troseddau difrifol a chyfundrefnol; amddiffyn pobl sy'n agored i niwed; yr elfen ddigidol mewn timau sy'n ymchwilio i gam-drin plant ar-lein a rheoli troseddwyr rhyw neu droseddwyr dreisgar.

Bydd profiad Ann fel arweinydd yn ei rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer gweithio ochr yn ochr â’r Prif Gwnstabl a’r uwch dîm rheoli i wasanaethu ein cymunedau a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn gwireddu ei botensial.