Buddsoddiad fel Gyrrwr Economaidd

Er mwyn meithrin annibyniaeth economaidd Cymru, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Ceisio cytundeb gan Drysorlys y Deyrnas Unedig er mwyn i Fanc Datblygu Cymru weithredu’n fwy llawn fel banc, er enghraifft benthyg gan ffynonellau fel cronfeydd pensiwn i fenthyca i’r cyhoedd a’r sector preifat.
  • Sefydlu Strategaeth Fuddsoddi Busnesau Bach a Chanolig, a fydd yn cynnwys benthyciadau hirdymor di-log gyda gwyliau ad-dalu hir, benthyciadau ailgychwyn, a benthyciadau adfer, a bargeinion newydd ar gyfer cwmnïau twf neu gwmnïau cymharol newydd.
  • Creu adran seilwaith yn y Banc Datblygu, gan adlewyrchu gwaith Banc Seilwaith y Deyrnas Unedig.
  • Sefydlu strwythur penodol, fel is-adran i’r Banc Datblygu, i reoli buddiant Llywodraeth Cymru mewn busnesau.
  • Buddsoddi mewn Banc Cymunedol newydd i helpu busnesau bach, a dychwelyd gwasanaethau bancio lleol i gwsmeriaid yn y cymunedau niferus yng Nghymru sydd wedi colli eu banciau lleol.
  • Archwilio creu Bond Gwyrdd Cymru i fuddsoddi yn yr amgylchedd, yr economi, a seilwaith, a chadw cyfran fwy o gynilion yng Nghymru.

Economi: darllen mwy