Delyth Jewell

Delyth Jewell

Facebook Twitter Instagram TikTok E-bost Gwefan y Senedd

Rhanbarth: Dwyrain De Cymru

Portffolio: Newid Hinsawdd; Dirprwy Senedd

Bu Delyth Jewell yn Aelod o’r Senedd ers 2019. Graddiodd o Brifysgol Rhydychen gyda Gradd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd. Wedi graddio, bu Delyth yn gweithio fel ymchwilydd a llefarydd i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan dan arweiniad Elfyn Llwyd AS. Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn paratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth ar stelcio a rheolaeth drwy orfodaeth. Yn ddiweddarach bu’n gweithio i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Yn 2019, daeth Delyth yn Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, a chafodd ei henwi’n llefarydd y blaid ar Brexit a Materion Allanol. Yn 2021, cafodd Delyth ei hailethol yn AS dros Ddwyrain De Cymru, a chafodd ei phenodi’n llefarydd ei phlaid ar Newid Hinsawdd, Trafnidiaeth ac Ynni. Delyth yw Cadeirydd Pwyllgor y Senedd ar Ddiwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Mae Delyth yn falch o’i gwreiddiau yn y cymoedd, ac mae hi’n frwd dros gynyddu’r cyfleoedd i bobl sy’n byw yno. Mae ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn annog mwy o bobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth.

Y tu hwn i wleidyddiaeth, mae diddordebau Delyth yn cynnwys canu, barddoniaeth a darllen. Mae hi’n aelod o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.