Economi
Crynodeb
- Creu Sbardun Economaidd Gwyrdd gwerth £6 biliwn a fydd yn creu 60,000 o swyddi.
- Sefydlu Gwarant Swydd Ieuenctid cenedlaethol i bawb rhwng 16 a 24 oed.
- Seilio strategaeth economaidd amgen ar yr egwyddor Lleol yn Gyntaf, gan gynyddu cyfran contractau cwmnïau o Gymru o’r gyllideb caffael cyhoeddus o 52 y cant i 75 y cant.
- Creu Ffyniant Cymru, sef asiantaeth ddatblygu hyd braich, i ganolbwyntio ar dyfu cwmnïau bach a chanolig Cymru.
- Datblygu Clystyrau Arloesi Diwydiannol ym meysydd allweddol yr economi.
- Ymestyn rôl Banc Datblygu Cymru a chefnogi’r gwaith o greu Banc Cymunedol i helpu busnesau dan berchnogaeth ddomestig i dyfu eu cyfran o’r farchnad.