Gwastraff a Phlastig

Mae Plaid yn credu yn erbyn 2030, dylai bod dim gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi, a byddwn ni’n rhoi diwedd ar losgi gwastraff. Bydd unrhyw gynnyrch na ellir ei ailddefnyddio, ei drwsio, ei ail-lenwi, ei ail-gylchredeg neu ei ailgylchu yn cael ei gynllunio allan o’r system. Byddwn ni’n mynd i’r afael â’r broblem gwastraff plastig drwy wahardd plastigau untro nad ydyn nhw’n hanfodol yn syth yn 2021, gan gynnwys bagiau plastig, gwellt yfed plastig, cyllyll a ffyrc plastig, Styrofoam a chadachau gwlyb nad ydyn nhw’n fioddiraddadwy.

Fel cam tuag at hynny, byddwn ni’n cynyddu’r targed statudol ar gyfer ailgylchu gwastraff trefol i 80 y cant erbyn 2026, gan ychwanegu mwy o ddeunyddiau i’r rhestr o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, a gosod targedau uchelgeisiol newydd ar gyfer gwastraff masnachol a diwydiannol. Byddwn ni’n cyflwyno targedau rhwymol i haneru gwastraff bwyd o’r fferm i’r fforc erbyn 2030.

Bydd targedau ailgylchu yn cael eu cymell drwy gronfa her ar gyfer cymunedau diwastraff mewn trefi, dinasoedd, pentrefi a chymoedd sy’n dymuno arloesi yn y daith tuag at economi gylchol.

Byddwn ni’n deddfu i wneud cwmnïau sy’n cynhyrchu pecynnu yn gyfrifol yn ariannol am eu heffaith amgylcheddol, ac yn creu Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer poteli a chaniau. Er mwyn atal gwastraff, byddwn ni’n cyflwyno ardoll ar bob cwpan un defnydd a lenwir ar y pwynt gwerthu, y bydd y cwsmer yn ei dalu, er mwyn annog pobl i ddefnyddio opsiynau ailddefnyddiadwy.

Argyfwng Hinsawdd: darllen mwy