Jonathan Clark

Ymgeisydd Gorllewin Casnewydd

Jonathan Clark - Gorllewin Casnewydd

Gwefan Facebook Twitter Ebost

Soniwch amdanoch eich hun

Rwy’n briod â Maria ac yn byw yng Nghasnewydd, fy ninas enedigol. Cefais fy ngeni (ym 1966) a’m magu yng Nghasnewydd a derbyniais fy addysg yn ysgol Gyfun St Julian yng Nghasnewydd cyn symud i astudio yn Llambed, Casnewydd a Chaerdydd.

Rwy’n gyn-stiward undeb llafur, a bûm yn rhan weithredol o bob ymgyrch o eiddo’r Blaid yng Nghasnewydd a rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Rwy’n gerddwr mynydd brwd ac yn cefnogi CPD Casnewydd (ers 1978/79) a Dreigiau Casnewydd Gwent, ac yn ymddiddori mewn archeoleg, gwleidyddiaeth a hanes, a mynd â'r ci am dro.

Ers 2016, rwyf wedi gweithio ym maes recriwtio yng Nghaerdydd, ac wedi gweithio o’r blaen mewn Marchnata a TG yng nghyn-Brifysgol Casnewydd (o 1998 tan 2015) cyn ei diddymu. Cyn hynny, gweithiais yn swyddfa’r wasg i Wasanaeth Heddlu’r Metropolitan - y Gyfarwyddiaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Mewnol.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae angen i’r Senedd sefydlu polisi tai cynaliadwy i Gymru gyfan sydd yn gwasanaethu gwir anghenion ein holl gymunedau yn hytrach na datblygwyr. Mae diffyg tai fforddiadwy yn cael effaith ar ein cymunedau oll, boed yn ein dinasoedd, trefi mawr a bach, neu yn ein hardaloedd gwledig. Wela’i ddim budd o gwbl i Gymru fod yn ddim ond atodiad i Loegr, nac i Gasnewydd fod yn dref noswylio i Fryste.

Dwyf i erioed wedi cymeradwyo’r agenda Glannau Hafren, a wnaf i byth, waeth faint o weithiau mae’n cael ei ail-frandio a’i ail-lansio. Yn ein rhanbarth de-ddwyreiniol ni, ar hyd y llain arfordirol ac yng Nghasnewydd a Thorfaen a’r cyffiniau (heb sôn am yr ardal o gwmpas Caerdydd a Chaerffili) ac ar draws Sir Fynwy dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf, rydym wedi gweld twf sylweddol os nad syfrdanol yn nifer y tai a godwyd, a chanran arwyddocaol ohonynt yn ddiweddar heb erioed wedi ei fwriadu i ateb anghenion tai lleol.

Ochr yn ochr â’r broblem dai, mae’r broblem drafnidiaeth – neu ddiffyg trafnidiaeth, yn hytrach. Mewn mannau eraill yn Ewrop, pan fydd datblygiadau tai mawr ar y gweill, mae’r seilwaith – yn aml, gorsafoedd rheilffyrdd, arosfeydd tramiau a chanolfannau trafnidiaeth – yn cael eu hadeiladu yn gyntaf cyn codi unrhyw dai – ond nid yma. Mae arnom angen gwir ymrwymiad gan lywodraeth newydd y Senedd ym Mai 2021 i roi blaenoriaeth i ychwanegu unrhyw seilwaith cyn cymeradwyo unrhyw ddatblygiadau tai arfaethedig.

Beth wnewch chi dros Orllewin Casnewydd petaech yn cael eich ethol?

Yn y Senedd fe fyddaf yn gweithio’n galed i helpu Casnewydd i wireddu ei photensial. Ar yr afon Wysg, mae’r llanw a’r trai ymysg rhai o’r uchaf yng Nghymru, a chyda’i hanes o weithgynhyrchu a diwydiannau trwm, dylai fod mewn sefyllfa wych i fanteisio ar ddatblygiad morlynnoedd llanw i’r gorllewin a’r dwyrain o’r ddinas a harneisio peth o botensial ynni llanw aber yr afon Hafren - gyda chyfuniad o dyrbeini, pŵer y tonnau, ynni gwynt yn y môr, ac ynni’r haul.