Rhieni

Dylid cefnogi rhieni i gymryd cyfnodau o wyliau sy’n adlewyrchu arferion gweithio modern, gan gynnwys gweithio hyblyg. Byddwn ni’n cefnogi gwaharddiad cyfreithiol ar gyflogwyr rhag diswyddo menywod yn ystod beichiogrwydd, ac am chwe mis ar ôl iddyn nhw ddychwelyd o gyfnod mamolaeth, ac eithrio sefyllfaoedd cyfyngedig iawn.

Byddwn ni hefyd yn mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gweithle, drwy gefnogi’r alwad i ychwanegu gofyniad i adrodd am gyfraddau cadw menywod sy’n dychwelyd o gyfnod mamolaeth i’r drefn adrodd bresennol am y bylchau rhwng cyflogau’r rhyweddau.

Gyda llu o newidiadau ar draws bywydau rhieni newydd, bydd Plaid Cymru’n gweithio i gefnogi iechyd meddwl rhieni yn ystod cyfnod a all fod yn heriol, er mor llawen hefyd, drwy ehangu a safoni mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol ledled Cymru, gan gynnwys ehangu mynediad at unedau arbenigol mamau a babanod yng Nghymru, fel sy’n cael ei arloesi yng Nghastell-nedd. Byddwn ni’n sefydlu gwasanaeth yn y gogledd i helpu teuluoedd y mae arnynt angen mynediad at gymorth amenedigol acíwt ar adeg mor dyngedfennol.

Byddwn ni hefyd yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith rhieni newydd, yn enwedig mamau, drwy sefydlu Rhwydweithiau Rhieni lleol, wedi’u hysbrydoli gan fenter Mamma Gruppen yn Sweden.

Yn ogystal â darparu gofal plant cyffredinol i blant o ddeuddeg mis oed ymlaen, rydyn ni’n credu y dylid ehangu ar absenoldeb rhiant statudol â thâl, i’w gymryd gan un rhiant neu i’w rannu, o’r 39 wythnos presennol i 52 wythnos. Byddwn ni’n parhau i wthio am ddatganoli llawn ar gyfer cymwyseddau i ddarparu trosglwyddiad di-dor rhwng diwedd absenoldeb rhiant â thâl a mynediad at ein cynnig gofal plant cenedlaethol.

Byddwn ni hefyd yn ehangu’r absenoldeb tadolaeth statudol i 12 wythnos, gan roi mwy o amser i dadau a phartneriaid ei dreulio gyda’u teulu newydd.

Dylid ymestyn absenoldeb a thâl mamolaeth a thadolaeth i deuluoedd y mae eu babanod yn cael eu geni’n gynnar, cyn 36 wythnos o feichiogrwydd, gyda nifer yr wythnosau y mae’r baban yn gynnar wedi’i ychwanegu at drefniadau absenoldeb rhiant.

Byddwn ni’n cyflwyno absenoldeb rhiant a rennir ar gyfer gweithwyr Llywodraeth Cymru ar y gyfradd cyflog mamolaeth uwch i dadau sy’n cymryd yr absenoldeb, ac yn annog yr un arfer da mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan ddylanwadu ar arfer da a defnyddio grymoedd caffael yn y sector preifat.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb: darllen mwy