Siân Gwenllian

Siân Gwenllian

Gwefan Facebook Twitter Instagram YouTube E-bost Gwefan y Senedd

Etholaeth: Arfon

Portffolio: Aelod Dynodedig Arweiniol

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru. Fe’i hetholwyd am y tro cyntaf yn 2016, ac fe’i hail-etholwyd yn 2021 gyda chanran uwch o’r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd arall drwy Gymru benbaladr.

Fe’i magwyd ym mhentref y Felinheli, a chafodd ei haddysg uwchradd ym Mangor. Aeth i Brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, a bu’n gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC a HTV ym Mangor. Bu hefyd yn gweithio ym maes cyfathrebu i Gyngor Gwynedd ac i Golwg.

Yn 2008 etholwyd Siân yn gynghorydd sir dros y Felinheli. Rhwng 2012 a 2014 bu’n Aelod Cabinet dros Addysg, yn arwain ar blant a phobl ifanc, yn ogystal â bod yn ddirprwy arweinydd y Cyngor. Yn ystod ei chyfnod ar Gyngor Gwynedd bu’n Bencampwr Busnesau Bach y sir hefyd.

Mae diddordeb gwleidyddol Siân yn rhychwantu sawl degawd. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu'n Llywydd ar Urdd y Myfyrwyr. Bu hefyd yn Aelod o Fwrdd Llywodraethwyr ysgolion ac yn Aelod o’r Cyngor Cymuned cyn dod yn Gynghorydd Sir.

Cafodd Siân bedwar o blant gyda’i gŵr, Dafydd ond yn 1999, pan oedd eu mab ieuengaf ond yn dair oed, bu farw Dafydd o ganser. Magodd Siân y pedwar o blant fel rhiant sengl.

Ers 2021, mae Siân yn Aelod Arweiniol Dynodedig yng Nghytundeb Cydweithio Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru. I Siân, mae sicrhau cinio ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru wedi bod yn uchelgais personol iddi, ac mae’n llwyddiant y mae hi’n falch iawn ohono.