Ynni

Gydag ewyllys ac uchelgais yn y llywodraeth, gallwn ni sicrhau bod Cymru’n gallu ateb ei holl alw am ynni drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Ein targed fydd adeiladu 11GW o gapasiti wedi’i osod erbyn y flwyddyn honno.

Atlas Ynni ac Ynni Cymru

Byddwn ni’n dechrau drwy gomisiynu rhestr genedlaethol o botensial ynni gwyrdd yng Nghymru, ‘Atlas Ynni i Gymru’, a fydd yn esblygu yn Gynllun Ynni manwl ar gyfer defnydd cynyddol o adnoddau naturiol a datblygiad cwmnïau brodorol a phrosiectau ynni cymunedol.

Bydd hyn yn cynnwys defnyddio’r amrediad llanw oddi ar arfordiroedd y de a’r gogledd, a mapio potensial hydrogen gwyrdd yng Nghymru. Byddwn ni’n cefnogi datblygu morlynnoedd llanw. Bydd pob datblygiad ynni adnewyddadwy yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cyfyngu ar unrhyw ddifrod posib i fioamrywiaeth, drwy ddatblygu canllawiau lleoliadol gwell i ddatblygwyr yn amgylcheddau’r môr a’r tir.

Byddwn ni’n sefydlu Ynni Cymru fel cwmni datblygu prosiectau ynni, yn debyg i Drafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Bydd Ynni Cymru yn galluogi Cymru i ymuno â’r drefn arferol yn Ewrop o sefydlu cwmni ynni wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth.

Bydd Ynni Cymru wedi’i leoli ar Ynys Môn, a bydd yn helpu i hwyluso masnachu trydan rhwng microgridiau ac ynysoedd ynni rhithiol.

Cynhyrchu a Defnyddio

Byddwn ni’n newid y targed presennol i ateb galw Cymru am drydan drwy ffynonellau adnewyddadwy, o 70 y cant erbyn 2030 i 100 y cant, ac yn gosod targed newydd y bydd 100 y cant o gynhyrchiant trydan Cymru yn adnewyddadwy erbyn 2035.

Byddwn ni:

  • Yn datblygu ein technolegau tonnau a llanw i wireddu ein potensial arfordirol yn llawn.
  • Yn anelu am gynnydd sylweddol mewn cynhyrchu â gwynt, yn enwedig ar y môr. Byddwn ni’n cefnogi ymestyn ffermydd solar yng Nghymru, a thoeon ffotofoltäig.
  • Yn buddsoddi mewn ymchwil ar ddatgarboneiddio, ar gyfer sectorau diwydiannol allweddol fel dur yn benodol, ac yn sefydlu ein hunain fel arweinwyr byd eang gyda chryfderau newydd Cymru fel ynni morol a hydrogen.
  • Yn ehangu storfeydd trydan Cymru yn sylweddol; mae Cymru eisoes mewn sefyllfa gref gyda’i dwy weithfa pŵer dŵr â phwmp.
  • Yn ei gwneud yn ofynnol fod gan bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru sy’n uwch na 5MW berchnogaeth gymunedol a lleol sydd rhwng 5 y cant a 33 y cant o leiaf, i gefnogi economïau gwledig ac arfordirol.
  • Yn cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol lleol, yn enwedig ynni dŵr.
  • Yn gofyn i’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol lunio cynllun i baratoi gridiau trydan Cymru at y dyfodol.

Argyfwng Hinsawdd: darllen mwy