Addysg Bellach, Prentisiaethau a Dysgu Gydol Oes
Wrth inni ddelio ag effaith economaidd y pandemig, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn gallu cael gafael ar ddarpariaeth ôl-16 o safon. Mae Plaid Cymru yn credu bod yn rhaid rhoi addysg alwedigaethol ar yr un sylfeini ag addysg academaidd, ac y dylid rhoi blaenoriaeth i sgiliau a chymwysterau mewn meysydd allweddol megis gofal, adeiladu ac amaethyddiaeth.
Byddwn yn cynyddu nifer ac ansawdd y prentisiaethau sydd ar gael, gan weithio i chwalu rhwystrau ariannol i hyfforddiant, a chynyddu amrywiaeth prentisiaid, ac ehangu’r cyfleoedd dysgu gydol oes sydd ar gael. Drwy weithio mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach a busnesau lleol, bydd ein cynghorwyr yn datblygu marchnadoedd llafur lleol mwy cydlynol.
Drwy ein Cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi sicrhau ymrwymiadau i ehangu’r ddarpariaeth dysgu gydol oes. Mae Plaid Cymru hefyd wedi sicrhau buddsoddiad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i helpu i ehangu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg.
Buddsoddi mewn Prentisiaethau
Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi parhau i fuddsoddi mewn dau gynllun a gynlluniwyd i helpu trigolion lleol i ddod o hyd i waith yn y sir. Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi ymrwymo £900,000 arall i Gynllun Prentisiaeth y Cyngor, sydd wedi penodi 35 o brentisiaid dros y tair blynedd diwethaf, gyda llawer o’r prentisiaid hyn yn ymuno â’r cyngor yn barhaol yn ddiweddarach.
Nod y Cyngor yw penodi 60 o brentisiaid newydd erbyn 2025.
Mae hefyd wedi ymrwymo cyllid i’w gynllun graddedigion, Cynllun Yfory, sy’n helpu i ddatblygu rheolwyr ac arbenigwyr Gwynedd tra’n annog partneriaid i ddarparu hyfforddiant a darpariaeth gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru