Anableddau
Mae’r pandemig Covid-19 a’r ymateb i’r pandemig wedi amharu ar hawliau dynol pobl anabl.
Fel rhan o ymrwymiad Plaid Cymru i gynnal Ymchwiliad Covid Cymru yn unig, byddir yn ymchwilio ymhellach i hyn.
Mae Cymru wedi cymryd camau yn ôl oherwydd y pandemig, gan greu anawsterau a bylchau newydd mewn gwasanaethau cyhoeddus i bobl anabl.
Rydym yn cytuno â Mudiadau Pobl Anabl Cymru ac yn credu y bydd gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl mewn Cyfraith ddomestig, fel mater o frys, yn helpu i fynd i’r afael â hyn.
Mae gan awdurdodau lleol ran fawr i’w chwarae wrth wireddu’r weledigaeth hon. Bydd awdurdodau lleol a chynghorwyr dan arweiniad Plaid Cymru yn edrych yn fanwl ar sut y gellir cymhwyso darpariaethau’r confensiwn ar lefel leol. Byddwn yn sicrhau bod asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cynnal mewn modd amserol ac effeithiol wrth ddatblygu darpariaethau gwasanaeth a phan gynigir newidiadau i’r amgylchedd adeiledig.
Fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, byddwn yn sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael eu cryfhau, a bod anghydraddoldebau’n cael eu taclo.