Athrawon Cyflenwi
Mae Plaid Cymru yn credu y gallwn symleiddio’r strwythur athrawon cyflenwi drwy ddychwelyd at system sy’n cael ei rhedeg gan Awdurdodau Addysg Lleol.
Byddwn hefyd yn cymryd camau i sicrhau bod addysg gyflenwi yng Nghymru yn cael ei rhedeg yn ddielw yn y dyfodol. Fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, byddwn yn datblygu opsiynau ar gyfer model mwy cynaliadwy o addysg gyflenwi, a hynny yn seiliedig ar waith teg. Dylai athrawon cyflenwi gael mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol drwy gydol eu gyrfaoedd.