Canol Trefi
Mae canol trefi a phentrefi wrth galon ein cymunedau. Fel canolfannau siopa, maent wedi bod dan fygythiad yn sgil twf siopau mawr y tu allan i drefi a pharciau manwerthu, a thwf anhygoel siopa ar y rhyngrwyd yn ystod pandemig Covid-19.
Bydd awdurdodau lleol dan arweiniad Plaid Cymru yn parhau i arwain mentrau newydd, er mwyn:
- Darparu adnoddau ar gyfer trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol
- Creu canolfannau gweithio ar y cyd mewn trefi ledled Cymru
- Hyrwyddo mannau cymunedol, llyfrgelloedd a pharciau
- Gwell mynediad ar gyfer cerdded a beicio
Cynllun Deg Tref Sir Gâr
Datblygodd Cyngor Sir Gâr dan arweiniad Plaid Cymru ei gynllun Deg Tref ar gyfer datblygu Cross Hands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, San Clêr a Hendy-gwyn ar Dâf. Mae cynlluniau twf economaidd yn cael eu datblygu, gyda thrigolion a busnesau lleol wrth galon y broses.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru
Canol Tref Aberteifi
Gan ddatblygu ap Tref Aberteifi, defnyddiodd Cyngor Sir Ceredigion ddata a gasglwyd i fesur gwybodaeth, fel nifer yr ymwelwyr ac ardaloedd poblogaidd y dref, gan rannu’r wybodaeth hon gyda busnesau i’w helpu i ystyried yn well sut i ddenu cwsmeriaid. Er bod siopau a busnesau wedi cau mewn trefi eraill yn ystod y pandemig, mae deg siop newydd wedi agor yn Aberteifi.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru
Dwi'n pleidleisio dros y Blaid
10,421 votesGyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.
Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.
Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?
Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.