Cefnogi Ein Hathrawon

O gamau cynnar dysgu gartref i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth, mae ein hathrawon wedi cefnogi miloedd o bobl ifanc yng Nghymru drwy un o’r cyfnodau anoddaf y gallwn ei gofio. Er hynny, ar hyn o bryd mae un o bob tri athro yn gadael eu swyddi yn ystod eu pum mlynedd cyntaf oherwydd llwyth gwaith ac amodau gwaith.

Er mai Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar gyflog ac amodau athrawon, gall awdurdodau lleol ddylanwadu ar amgylchedd yr ysgol a’r ystafell ddosbarth, a’u gwella, drwy wneud y canlynol:

  • Penodi mwy o staff nad ydynt yn addysgu, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, i gefnogi anghenion disgyblion ochr yn ochr â’u haddysg
  • Sicrhau bod athrawon yn cael digon o amser ac yn cael eu cefnogi i gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

10,437 votes

Gyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Y Dechrau Gorau mewn Bywyd: darllen mwy