Diogelu Aelwydydd Cymru rhag Costau Byw Cynyddol
Bydd costau ynni cynyddol, diffyg cynnydd o ran cyflogau, cynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd a thoriadau creulon i les, yn golygu y bydd aelwydydd Cymru’n wynebu cannoedd, os nad miloedd o bunnoedd, o gostau ychwanegol eleni. Mae miloedd o gartrefi eisoes yn ei chael hi’n anodd talu am eitemau bob dydd.
Mae llawer o hyn yn ganlyniad i bolisïau a weithredwyd gan lywodraeth Dorïaidd Llundain.
Er y byddwn yn parhau i alw ar Lywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan i weithredu, gall cynghorwyr ac awdurdodau lleol Plaid Cymru gymryd camau i amddiffyn teuluoedd, drwy:
- Gymryd perchnogaeth ar gynhyrchu ynni’n lleol a buddsoddi mewn cynlluniau ynni gwyrdd.
- Gwneud cartrefi pobl yn fwy ynni-effeithlon, gyda gwell inswleiddio yn arwain at ddefnyddio llai o ynni.
- Cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chefnogi busnesau lleol, i ddiogelu swyddi ac incwm lleol, i ddiogelu swyddi ac incwm lleol.
Ar lefel genedlaethol, mae Plaid Cymru yn cymryd camau beiddgar i ddiogelu cyllidebau aelwydydd Cymru rhag argyfyngau yn y dyfodol, drwy:
- Gyflwyno prydau ysgol am ddim i blant cynradd, ac ymrwymiad i’r nod o ymestyn Prydiau Ysgol Am Ddim i gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd yn ystod y tymor cyngor nesaf
- Ehangu mynediad at ofal plant am ddim yn gyffredinol i blant dwy oed a hŷn
- Creu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru, i sefydlu cynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned, gan ein helpu i dorri cysylltiadau â chwmnïau rhyngwladol sy’n allforio elw
- Cymryd camau i sicrhau bod y system Treth Gyngor anflaengar yn cael ei diweddaru i fod yn decach