Cydraddoldeb

Cred Plaid Cymru fod mynd i’r afael â phob math o anghyfiawnder yn rhan hanfodol o ailstrwythuro ac ailadeiladu cymdeithas decach.

Fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi sicrhau y bydd Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Hiliol yn cael ei ddatblygu. Byddwn hefyd yn cefnogi cyhoeddi Cynllun Gweithredu LHDTC+, ac yn galw am bwerau ychwanegol i gynnig cymorth a gwarchodaeth i Bobl Drawsrywiol yng Nghymru. Mae Plaid Cymru yn credu bod niwroamrywiaeth yn fater sy’n ymwneud â chydraddoldeb, a byddai’n cyflwyno Deddf Awtistiaeth, gan fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl awtistig.

Mae Plaid Cymru yn credu y dylid datganoli Deddf Cydraddoldeb 2010 i’r Senedd. Gan weithio dan y Ddeddf hon, ac fel gweithredwyr a chyflogwyr allweddol mewn cymunedau, mae gan gynghorau rôl hanfodol i’w chwarae o ran sicrhau bod pob grŵp yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a’u cefnogi.

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Iachach a Gofalgar: darllen mwy