Cadwyni Cyflenwi a Caffael
Bob blwyddyn, mae Cynghorau ledled Cymru yn gwario biliynau o bunnoedd ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau. Nod Plaid Cymru yw cadw cymaint o arian â phosibl yn yr economi leol, gan gefnogi busnesau lleol i ffynnu a chynnal swyddi lleol ar yr un pryd.
Gallai targed Plaid Cymru ar gyfer cynyddu lefel caffael y sector cyhoeddus i 75 y cant o gyfanswm y gwariant greu degau o filoedd o swyddi ychwanegol ledled Cymru.
Mae awdurdodau lleol dan arweiniad Plaid Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod mwy a mwy o’u harian yn cael ei wario’n lleol drwy dorri contractau lle bo modd i sicrhau bod cyflenwyr a busnesau lleol yn cael eu defnyddio’n amlach.
Cadw’r Budd yn Lleol
Bu Cyngor Sir Gwynedd yn treialu ei strategaeth Cadw’r Budd yn Lleol, sy’n ystyried y ffordd orau o gadw arian a werir gan y Cyngor yn yr ardal leol. Dros y pedair blynedd diwethaf, cynyddodd gwariant y cyngor sy’n aros yn y sir o £56m i £78m – cynnydd o 39%.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru
Cynllun Adferiad Economaidd Lleol Cyntaf Cymru
Cyngor Sir Gâr, dan arweiniad Plaid Cymru, oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i weithredu Cynllun Adfer Covid, gan ddiogelu 10,000 o swyddi a chefnogi llawer mwy o ficrofusnesau a fyddai fel arall wedi llithro drwy rwyd cefnogaeth y llywodraeth.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru