Diogelwch yn yr Ysgol
Byddai ein mesurau ‘Cadw Ysgolion yn Ddiogel’ yn gweithredu ar lefel Llywodraeth Cymru, ond Awdurdodau Lleol fyddai’r partner cyflawni allweddol. Dyma’r mesurau:
- Parhau i ddarparu profion llif unffordd am ddim ar gyfer lleoliadau addysg
- Cefnogi staff sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, gan gynnwys y rheini sy’n feichiog, i weithio gartref, a diogelu staff sy’n agored i niwed drwy gynnig rolau gyda’r cyswllt lleiaf, a masgiau FFP2/3
- Cymorth ariannol ychwanegol i fynd i’r afael â’r bwlch digidol, i baratoi ar gyfer unrhyw sefyllfaoedd yn y dyfodol lle mae gofyn i ddisgyblion ddysgu gartref
- Mesurau i wella’r gwaith o fonitro awyru ac ansawdd aer, gan gynnwys monitorau carbon deuocsid ar gyfer pob ystafell ddosbarth a gofod addysgol a defnyddio puryddion aer yn eang
- Mesurau i wneud ystafelloedd dosbarth wedi’u hawyru’n dda yn gyfforddus i fyfyrwyr – gallai hyn gynnwys llacio codau gwisg i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gwisgo’n fwy cynnes a bod ystafelloedd dosbarth yn cael eu gwresogi’n dda
Monitro Ansawdd Aer i Ddiogelu Plant
Yn ystod haf 2021, cafwyd llawer o drafod ynghylch a ddylai ysgolion yng Nghymru fod yn defnyddio monitorau carbon deuocsid, i sicrhau bod disgyblion yn anadlu aer mwy ffres, gan leihau’r risg o drosglwyddo Covid. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi petruso, gan gytuno yn y diwedd i ddarparu’r offer ar ôl pwysau gan Blaid Cymru, roedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn defnyddio monitorau am fisoedd. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, roedd y Cyngor dan arweiniad Plaid Cymru wedi darparu monitorau i ysgolion, cartrefi gofal a swyddfeydd, gan helpu i gadw ystafelloedd wedi’u hawyru a gostwng cyfraddau Covid.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru