Tomennydd Glo

Mae’r tomennydd sy’n anharddu ein mynyddoedd ar hyd maes glo Cymru yn ein hatgoffa’n glir o etifeddiaeth ein gorffennol diwydiannol. Gwyddom bod mwy na 300 o domennydd yn rhai risg uchel, a gallai’r cynnydd mewn glawiad sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi mwy ar y tomennydd ledled y cymoedd.

Nid yw pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhyddhau gwybodaeth am leoliad y tomennydd risg uchel, sy’n dwysáu pryderon trigolion lleol. Bydd Plaid Cymru yn pwyso am i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd, ac am i strategaeth a rennir gael ei rhoi ar waith er mwyn i awdurdodau lleol weithio gyda Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr lleol i sicrhau bod yr holl domennydd risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel. Yn amlwg, dylai San Steffan dalu’r bil, ond rhaid rhoi’r pwys mwyaf ar sicrhau bod y tomennydd hyn yn ddiogel – ac ni ddylai disgwyl i San Steffan wneud y peth iawn effeithio ar yr ymdrechion hyn.

Y tu hwnt i bryderon uniongyrchol o ran diogelwch, mae Plaid Cymru yn galw am roi cynllun gweithredu cenedlaethol ar waith i helpu i adfywio’r ardaloedd o gwmpas y tomennydd. Gyda’r buddsoddiad gwyrdd cywir, gellid trawsnewid y tirweddau hyn o fod yn nodweddion annymunol i fod yn ffynhonnell balchder bro a swyddi i’r economi leol.

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrddach: darllen mwy