Gofal Plant am Ddim i Bob Plentyn Dwyflwydd Oed
Diolch i ddylanwad Plaid Cymru, bydd gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed yn cael ei gyflwyno ledled Cymru fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru.
Mae gan Gynghorwyr ac Awdurdodau Lleol Plaid Cymru ran allweddol i’w chwarae yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau gofal plant newydd. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod darpariaeth gofal plant yn cael ei chynllunio a’i darparu’n effeithiol i helpu rhai o deuluoedd tlotaf Cymru yn gyntaf.
Gofal Plant Brys ar gyfer Gweithwyr Allweddol
Roedd y pedwar awdurdod lleol a oedd yn cael eu harwain gan Blaid Cymru wedi sefydlu hybiau gofal plant yn ystod camau cynnar y pandemig i gefnogi’r plant hynny a’u teuluoedd yr oedd angen gofal arnynt. Roedd hyn yn golygu y gallai meddygon, nyrsys, athrawon a gweithwyr allweddol eraill barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Sicrhaodd Cyngor Sir Ynys Môn fod ysgolion lleol yn aros yn agored fel canolfannau cymorth, gan helpu plant agored i niwed, gan gynnwys y rheini sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a phlant gweithwyr allweddol. Parhaodd y gefnogaeth hon yn ystod gwyliau’r Pasg gyda 25 o ganolfannau gofal yn cael eu cadw yn agored.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru