Sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol
Un o lwyddiannau mwyaf yr 20fed Ganrif oedd creu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel na ddylai salwch, damweiniau neu glefydau greu bygythiad o ddyled ariannol.
Mae Plaid Cymru yn credu bod arnom angen yr un dull gweithredu â darpariaeth iechyd ar gyfer pob gofal personol, ac y dylai gweithwyr gofal gael cyflog ac amodau cyfartal â’r rhai a gynigir gan y GIG. Dyna pam mae Plaid Cymru yn credu bod angen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol arnom, dan arweiniad llywodraeth leol fydd yn integreiddio’n ddi-dor â’r GIG.
P’un ai oherwydd oed, anabledd, salwch dros dro neu gyflyrau cronig, bydd angen cymorth ar lawer ohonom i fyw o ddydd i ddydd drwy ofal cymdeithasol. Efallai y bydd ar rai ohonom angen lle diogel i fyw ynddo a chael gofal parhaol.
Ein huchelgais yw y dylai gofal personol fod am ddim pan fydd ei angen, uchelgais sydd bellach yn cael ei hadlewyrchu yn Rhaglen Lywodraethu Cymru, a sicrhawyd gan Blaid Cymru fel rhan o’n Cytundeb cydweithio.