Gweithredu dros Gymru
Bron i chwarter canrif yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru dros hunanlywodraeth i Gymru, gydag addewid o fath newydd o wleidyddiaeth. Roeddent yn ymddiried mewn democratiaeth newydd gyda chyfarwyddyd i weithio’n wahanol – yn gynhwysol ac yn gydweithredol.
Yn wyneb y pandemig, argyfwng costau byw a llywodraeth Geidwadol elyniaethus yn San Steffan – sy’n benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i danseilio ein sefydliadau cenedlaethol – mae er budd ein cenedl i bleidiau gydweithio dros Gymru.
Yn dilyn trafodaethau a chytundeb gyda’n haelodau, ymrwymodd Plaid Cymru i Gytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.
Mae’r diolch i Blaid Cymru bod polisïau allweddol – o fwydo ein plant drwy ymestyn prydau ysgol am ddim, i ofalu am ein henoed a’n dinasyddion agored i niwed drwy greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol – bellach yn rhan o Raglen Lywodraethu uchelgeisiol sy’n adeiladu’r genedl.
Mae’r Cytundeb Cydweithio, a negodwyd gan Blaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, yn elfen ganolog o’n gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol ledled Cymru.
✓ Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn cynradd
✓ Gofal Plant am Ddim i bob plentyn dwyflwydd oed
✓ Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i ddarparu gwasanaeth cryfach, di-dor ac amodau gwaith gwell ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol
✓ Gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael ag ail gartrefi a thai anfforddiadwy, gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthu
✓ Rhoi diwedd ar ddigartrefedd Sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy
✓ Diwygio’r Dreth Gyngor i’w gwneud yn decach
✓ Gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth integredig
✓ Comisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl tuag at sero-net erbyn 2035
✓ Comisiynu adolygiad annibynnol o lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21 a gweithredu ar ei argymhellion
✓ Buddsoddi mwy mewn camau lliniaru llifogydd
✓ Gwella gwasanaethau iechyd meddwl a lles, yn enwedig i bobl ifanc
✓ Dylunio modelau newydd i lywodraeth leol gydweithio yng Ngorllewin Cymru a De Cymru
✓ Cefnogi awdurdodau lleol i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg
✓ Cyflwyno Bil Addysg Gymraeg