Iechyd a Llesiant Meddyliol

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, byddwn yn cymryd camau pellach tuag at nod Plaid Cymru o sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i bobl ifanc.

Byddwn yn profi sut mae’r Model Noddfa – cyfleusterau cymunedol gydag oriau agor estynedig, sy’n cael eu rhedeg gan staff trydydd sector hyfforddedig a llwybrau atgyfeirio clir i’r GIG – yn gallu helpu i gefnogi pobl ifanc sydd mewn argyfwng neu sydd â phroblem iechyd meddwl neu les emosiynol brys. Byddai’r canolfannau hyn yn agored gyda’r nosau ac ar benwythnosau.

Prosiect Yma i Chi Ceredigion

Mewn ymateb i amseroedd aros hir i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, cefnogodd Cyngor Sir Ceredigion, dan arweiniad Plaid Cymru, elusen ieuenctid leol i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl hawdd eu cyrraedd i bobl ifanc yn y sir.

Roedd cynllun Cynnal y Cardi, dan arweiniad y Cyngor, yn darparu cyllid ar gyfer y prosiect Yma i Chi, sy’n rhoi mynediad cyflym i bobl ifanc, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd gwledig, at wasanaethau therapi siarad, arlein, rhad ac am ddim.

✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru


System Tracio ac Olrhain Cyntaf Cymru

Ym mis Ebrill 2020, er bod Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd wedi cael trafferth sefydlu system olrhain a oedd yn costio biliynau o bunnoedd, roedd Cyngor Sir Ceredigion, dan arweiniad Plaid Cymru, wedi gafael yn yr awenau ac wedi sefydlu ei system tracio ac olrhain bwrpasol, cost-effeithiol ei hun.

Gan ddefnyddio arbenigedd tîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor i olrhain cysylltiadau â mathau eraill o salwch cyn y pandemig, sefydlwyd system Ceredigion o fewn dyddiau, gan achub bywydau a lleihau nifer y bobl oedd yn mynd i’r ysbyty drwy wneud hynny.

Denodd y cynllun sylw ar draws y DU am ei rôl o ran cadw’r gyfradd heintio yng Ngheredigion ar y lefel isaf yng Nghymru yn ystod camau cynnar y pandemig, gyda 57 achos am bob 100,000 o bobl ar adeg pan oedd cyfartaledd cenedlaethol Cymru yn 461 o achosion am bob 100,000.*

✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru


Ysbyty Maes Cyntaf Cymru

Aeth Cyngor Sir Gâr, dan arweiniad Plaid Cymru, ati i weithredu yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig, gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chontractwyr lleol i adeiladu pedwar ysbyty brys mewn tair wythnos yn barod i leihau’r pwysau ar y GIG.

Newidiodd y Cyngor Parc y Scarlets o fod yn stadiwm rygbi i gasgliad o ysbytai maes mewn 21 diwrnod; yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru


Achub Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys Lleol

Pan gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eu bod yn bwriadu cau’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, taflodd Cynghorwyr Plaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf eu cefnogaeth y tu ôl i drigolion lleol, llofnodi deisebau, anfon llythyrau at bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, ac ymuno â grwpiau ymgyrchu lleol. Cafodd y penderfyniad i gau’r gwasanaethau ei wrthdroi, gan sicrhau bod trigolion lleol yn gallu cael gafael ar ofal brys yn eu cymuned.

✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru


* Data Iechyd Cyhoeddus Cymru o 11 Mehefin 2020

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Iachach a Gofalgar: darllen mwy