Llifogydd

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld yr effaith wirioneddol a dinistriol yn aml y gall llifogydd ei chael ar fywydau pobl. Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi sicrhau pecyn cyllid gwerth cyfanswm o £214 miliwn dros y tair blynedd nesaf, i’w fuddsoddi mewn mesurau lliniaru a rheoli llifogydd.

Bydd Plaid Cymru hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Chyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21, a gweithredu ar ei argymhellion.

Gweithredu Ynghylch Llifogydd

Pan dorrodd llifogydd gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf ym mis Chwefror 2020, roedd Cynghorwyr Plaid Cymru yn rhan ganolog o gydlynu’r gefnogaeth oedd ei hangen ar drigolion. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu â chwmnïau yswiriant, trefnu tai brys a chlirio cartrefi, cydlynu rhoddion a gwirfoddolwyr yn ogystal â sicrhau cymorth tymor hir i’r rheini yr effeithiwyd arnynt.

Bu Cynghorwyr Plaid Cymru hefyd yn arwain y galwadau am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd – ymgyrch sy’n mynd rhagddi. Mae llawer hefyd yn awr yn cefnogi Grwpiau Atal Llifogydd lleol.

✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrddach: darllen mwy