Prydau Ysgol am Ddim
Diolch i ddylanwad Plaid Cymru, mae pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru bellach ar fin cael prydau ysgol am ddim, gyda’r ehangu’n digwydd o fis Medi eleni. Rydyn ni’n gweld hwn fel cam cyntaf tuag at brydau ysgol am ddim i blant o bob oed.
Gwyddom fod mwy o blant a theuluoedd sydd angen help. Dyna pam mae Awdurdodau Lleol a arweinir gan Plaid Cymru yn ymrwymo i’r nod o ymestyn Prydiau Ysgol Am Ddim i gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd yn ystod y tymor cyngor nesaf, gan ddechrau’r gwaith paratoi a chynllunio yn syth, fel rhan o weledigaeth Plaid Cymru i weithredu’r polisi hwn ar draws Cymru.
Bydd y ddarpariaeth yn defnyddio cynnyrch lleol lle bo modd, gan gefnogi busnesau a chadwyni cyflenwi lleol a lleihau milltiroedd bwyd.
Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar y lefelau gwarthus o dlodi plant yng Nghymru – y lefel uchaf o holl wledydd y DU. Nid oes gan dros hanner y plant yng Nghymru sy’n byw dan y llinell dlodi – 70,000 o blant – hawl i gael prydau ysgol am ddim.*
Felly, rydym yn ystyried bod darparu prydau ysgol am ddim i bawb yn un o’r camau pwysicaf y gallwn ei gymryd i fynd i’r afael â thlodi plant, gan sicrhau bod plant yn cael pryd o fwyd maethlon am ddim fel rhan o’r diwrnod ysgol.