Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi dweud bod ei blaid yn "barod i wneud gwahaniaeth go iawn" yn 2022 wrth iddo gyflwyno ei dîm yn y Senedd ar ei newydd wedd.

Cadarnhaodd Mr Price mai Heledd Fychan AS fyddai llefarydd Plant a Phobl Ifanc, y Gymraeg, Diwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol, Sioned Williams AS Llefarydd Addysg Ôl-16, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb; a Mabon ap Gwynfor AS y Llefarydd dros Amaethyddiaeth, Materion Gwledig, Tai a Chynllunio.

Cadarnhaodd Arweinydd Plaid Cymru hefyd mai Cefin Campbell AS fyddai'r ail Aelod Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Bydd Mr Campbell yn ymuno â Sian Gwenllian AS a gafodd ei chyhoeddi fel y Prif Aelod Dynodedig fis diwethaf.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod Mr Campbell yn wleidydd "rhagorol" a "phrofiadol" a fyddai'n rhan o'r tîm a fydd yn gweithio gyda'r Llywodraeth i fwrw ymlaen â'r Cytundeb Cydweithredu er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.

Dywedodd Mr Campbell ei bod yn "anrhydedd a braint" cael gwahoddiad i fod yn Aelod Dynodedig.

Ychwanegodd Mr Price fod Cymru'n wynebu "sawl her" yn 2022 gan gynnwys y pandemig parhaus, yr argyfwng hinsawdd a chostau byw yn codi, Llywodraeth San Steffan "elyniaethus" a phwysleisiodd fod ei blaid yn "barod i ymateb i'r heriau hynny yn uniongyrchol".

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price,

"Rwy'n falch o benodi Cefin Campbell yn ail Aelod Dynodedig terfynol o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Mae Cefin yn wleidydd eithriadol gyda blynyddoedd o brofiad dan ei felt. Bydd ef a Sian Gwenllian yn rhan o dîm a fydd yn gweithio gyda'r Llywodraeth i fwrw ymlaen â'r Cytundeb Cydweithredu er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.

"Mae'n addas cyhoeddi rôl newydd Cefin yn ystod wythnos gyntaf tymor newydd y Senedd.

"O'r pandemig, yr argyfwng newid hinsawdd, twf mewn costau byw a Llywodraeth elyniaethus yn San Steffan, mae Cymru'n dechrau 2022 gyda sawl her o'n blaenau. Mae Plaid Cymru yn barod i ymateb i'r heriau hynny yn uniongyrchol ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru drwy'r Cytundeb Cydweithredu a fydd yn sicrhau cefnogaeth drawsnewidiol i rai o'n cartrefi tlotaf.

Dywedodd Cefin Campbell AS Plaid Cymru,

"Mae'n fraint ac yn anrhydedd i gael fy ngwahodd i fod yn Aelod Dynodedig fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu cyffrous a thrawsnewidiol hwn rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Mae'r Cytundeb Cydweithredu yn rhaglen radical a thrawsnewidiol a fydd yn dod â manteision gwirioneddol a hirdymor i bobl Cymru -- gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae'n gyfle go iawn ar gyfer ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'm cyd-aelod dynodedig Sian Gwenllian a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac rwy'n addo gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod y cytundeb a'i 46 maes polisi yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.