Rhagair

gan Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru


Mae Plaid Cymru yn blaid sydd â’i gwreiddiau yn y gymuned.

Rydym yn teimlo’n angerddol am Gymru ac am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Boed hynny’n helpu pobl sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd llifogydd, danfon parseli bwyd i’r rheini sydd mewn angen, neu gefnogi busnesau lleol, mae Plaid Cymru ar gael bob dydd mewn cymunedau ledled Cymru gan weithio’n galed ar ran y bobl maen nhw’n eu cynrychioli.

Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru – ein pencampwyr cymunedol – eisiau adeiladu Cymru’r dyfodol. Un sy’n fwy cynaliadwy, yn decach ac yn edrych tua’r dyfodol – lle mae gan bawb yr un cyfle i gyflawni eu llawn botensial.

Mae Plaid Cymru eisoes yn rhoi ei syniadau da ar waith.

Yr ydym wedi sicrhau £200 miliwn yng nghyllideb eleni i ymestyn Prydau Ysgol am Ddim, yn gyffredinol, i bob disgybl ysgol gynradd.

Gwyddom fod mwy o blant a theuluoedd sydd angen help. Dyna pam mae Awdurdodau Lleol a arweinir gan Plaid Cymru yn ymrwymo i’r nod o ymestyn Prydiau Ysgol Am Ddim i gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd yn ystod y tymor cyngor nesaf, fel rhan o weledigaeth Plaid Cymru i weithredu’r polisi hwn ar draws Cymru.

Yr ydym yn ymestyn mynediad am ddim i ofal plant i blant dwy oed yn gyffredinol. Yr ydym yn mynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru drwy adeiladu tai cymdeithasol mwy ynni-effeithlon, a mwy o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy. Yr ydym yn cymryd camau radical i leihau nifer yr ail gartrefi.

Yr ydym yn creu Cwmni Ynni Cenedlaethol, Ynni Cymru, i sefydlu cynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned.

Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â blaenoriaethau, ac i Blaid Cymru ein blaenoriaeth erioed fu pobl Cymru, a gwneud beth bynnag a allwn, pryd bynnag y gallwn i wella eu bywydau.

Oherwydd bod Plaid Cymru yn blaid sy’n gweithio i bawb yng Nghymru.

Pwy bynnag ydych chi, ble bynnag ydych chi, a pha bynnag iaith a siaradwch, gallwch ymddiried ym Mhlaid Cymru i wneud gwahaniaeth i chi, i’ch teulu ac i’ch cymuned.