Sero Net
Drwy ein Cytundeb Cydweithio, rydym wedi sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau at sicrhau Cymru sero net erbyn 2035.
Awdurdodau Lleol dan arweiniad Plaid Cymru yn arwain y ffordd ar Sero Net
Mae pob Awdurdod Lleol dan arweiniad Plaid Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, a Chyngor Sir Gâr oedd y cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Mae pob un wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau Sero Net erbyn 2030. Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Sero Net Sir Gaerfyrddin ym mis Chwefror 2020 a dyma’r ddogfen gyntaf o’i bath a gynhyrchwyd gan unrhyw gyngor sir yng Nghymru.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru
Mae camau gan gynghorau Plaid Cymru i gyrraedd sero net yn cynnwys:
- Sicrhau bod adeiladau newydd y cyngor, gan gynnwys cartrefi, yn defnyddio ynni’n effeithlon ac yn cynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy er mwyn i fwy o adeiladau fod yn garbon bositif.
- Ôl-osod a gwella inswleiddiad ac effeithlonrwydd adeiladau hŷn.
- Uwchraddio cerbydau’r cyngor i gynnwys cerbydau glanach a cherbydau trydan.
- Plannu mwy o goed a diogelu mannau gwyrdd.
- Codi ymwybyddiaeth drwy ysgolion a gyda’r gymuned i annog newidiadau mewn ymddygiad bob dydd sydd o fudd i’r amgylchedd ac sy’n lleihau ein hôl troed carbon unigol.