Tai

Gyda 67,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai, dim ond ffracsiwn o’r tai cymdeithasol a fforddiadwy y mae Cymru eu hangen sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.

Mewn cyfnod o 18 mis, o ddechrau pandemig COVID-19 i ddiwedd mis Tachwedd 2021, mae dros 17,300 o bobl yng Nghymru wedi dod yn ddigartref.

Mewn rhai rhannau o Gymru, mae hyd at 40 y cant o’r tai sy’n mynd ar y farchnad bob blwyddyn bellach yn cael eu prynu fel ail gartrefi, gyda phrisiau’n codi a theuluoedd lleol yn methu fforddio prynu tai oherwydd cynnydd yn y galw.

Drwy ein Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, rydym yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai drwy:

  • Sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol - Unnos - er mwyn cefnogi cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy
  • Mynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, gan gynnwys cyflwyno cap ar nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau, mesurau i ddod â mwy o gartrefi i berchnogaeth gyffredin a chaniatáu i awdurdodau lleol godi premiymau treth gyngor o hyd at 300% ar ail gartrefi
  • Rhoi diwedd ar ddigartrefedd
  • Diwygio cyfraith tai i roi mwy o sicrwydd i rentwyr a system rhenti teg (rheoli rhenti)

Bydd cynghorwyr ac awdurdodau lleol dan arweiniad Plaid Cymru yn cefnogi:

  • Adeiladu mwy o dai cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, gan gynnwys cyfran fwy o dai cymdeithasol sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Premiymau treth gyngor uwch ar gyfer ail gartrefi a chamau i gau’r man gwan sy’n caniatáu i berchnogion ail dai gofrestru eu heiddo fel busnesau er mwyn osgoi talu’r premiwm y dreth gyngor
  • Newid deddfwriaeth cynllunio i osod terfyn ar nifer yr ail gartrefi a gwrthod caniatâd i newid annedd o fod yn brif breswylfa i fod yn ail breswylfa
  • Defnyddio eiddo gwag unwaith eto drwy fynnu bod perchnogion yn gwneud gwelliannau, a rhoi grantiau i brynwyr am y tro cyntaf i adnewyddu eiddo gwag ac eiddo sy’n cael ei esgeuluso

Mwy o Dai Cymdeithasol, Swyddi a Phrentisiaid

Mae Cyngor Sir Gâr wedi ymrwymo i ddarparu mwy na 900 o adeiladau newydd erbyn 2029, sef y cynnydd mwyaf yn y stoc tai cyngor yn Sir Gaerfyrddin ers y 1970au. Yn ogystal â darparu cartrefi y mae mawr eu hangen yn y sir, bydd y buddsoddiad hefyd yn rhoi hwb i’r economi leol gan greu swyddi, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau yn y diwydiant adeiladu.

Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru


Prosiect Caron Cynnes Gwobrwyog Ceredigion

Bydd prosiect Caron Cynnes Cyngor Sir Ceredigion yn sicrhau bod cartrefi trigolion lleol yn defnyddio ynni’n effeithlon ac yn gynnes. Darparodd y rhaglen wobrwyog hon fuddiannau sylweddol i 137 o drigolion agored i niwed yn 2020, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae’r rhaglen yn targedu’r rheini sy’n byw mewn cartrefi sy’n aneffeithlon o ran ynni, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad yw’r rhwydwaith nwy’n eu cyrraedd, gyda gwres canolog ac inswleiddio.

Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru


Lleihau Gwastraff Bwyd

O’r Rhondda i Wynedd, mae cynghorwyr a gwirfoddolwyr Plaid Cymru wedi bod yn gweithio gyda’u cymunedau i gynnal cynlluniau rhannu bwyd sy’n ailddosbarthu bwyd dros ben i deuluoedd, grwpiau cymunedol ac elusennau.

Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrddach: darllen mwy