Teithio llesol a chymdogaethau 20 munud

Mae cerdded a beicio nid yn unig yn fwy cynaliadwy na thrafnidiaeth fodurol yn amgylcheddol, ond gallent hefyd fod yn rhan bwysig o fyw’n iach.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r egwyddor o greu cymdogaethau 20 munud ym mhob un o’n trefi a’n dinasoedd, gan ddarparu mynediad cyfleus, diogel i gerddwyr i’r mannau y mae pobl eu hangen a’r gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio bron bob dydd: cludiant cyhoeddus, siopa, ysgolion, parciau a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol o ran symud ein cymunedau tuag at yr uchelgais hwn, drwy:

  • Gosod targedau uchelgeisiol i gynyddu’r ddarpariaeth llwybrau beicio a llwybrau diogel i ysgolion a chanol trefi
  • Creu cymhellion i annog pobl i ddefnyddio e-feiciau ac annog pobl i ddefnyddio cynlluniau llogi beiciau, ac archwilio’r posibilrwydd o e-feiciau cargo i ddisodli faniau a lleihau traffig Cerbydau Nwyddau Trwm
  • Dynodi cyfyngiadau cyflymder mwy diogel ym mhob ardal adeiledig
  • Cefnogi lleoli swyddfeydd cyngor yng nghanol trefi a dinasoedd, oddi wrth ddatblygiadau y tu allan i drefi

Byddwn hefyd yn annog cerdded a beicio gan ganolbwyntio’n benodol ar fynediad i grwpiau anabl. Bydd buddsoddiad mewn palmentydd gwell, cyrbau isel, toiledau a meinciau cyhoeddus a gwella mynediad y cyhoedd at amwynderau fel parciau a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrddach: darllen mwy