Trafnidiaeth

Gweledigaeth Plaid Cymru yw bod Cymru’n gymuned gydgysylltiol o gymunedau, yn gydnerth, yn ffyniannus, yn iach ac yn amgylcheddol gadarn. Mae gan systemau trafnidiaeth gyhoeddus mwy gwyrdd, cydgysylltiedig ac effeithiol ran hanfodol i’w chwarae o ran cyflawni’r nod hwn.

Bydd defnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus yn lleihau llygredd traffig a thagfeydd. Bydd hefyd yn cyfrannu at gynaliadwyedd llwybrau bysiau lleol a hyfywedd llawer o gymunedau gwledig.

Rydym am symud Cymru oddi wrth system sy’n cael ei dominyddu gan geir petrol a disel tuag at drafnidiaeth fwy cynaliadwy, gyda’r nod o haneru’r gyfran o deithiau a wneir mewn ceir erbyn 2030. Byddwn yn buddsoddi mewn seilwaith ailwefru i annog pobl i ddefnyddio cerbydau trydan.

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrddach: darllen mwy