Twristiaeth Gynaliadwy
Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r weledigaeth o symud diwydiant twristiaeth Cymru i fod yn ddiwydiant sy’n gynaliadwy ac o fudd i gymunedau ledled Cymru, drwy gydol y flwyddyn.
Yr ydym yn cefnogi cyflwyno ardollau twristiaeth lleol, gan roi’r pŵer a’r adnoddau i awdurdodau lleol fuddsoddi a chyflenwi yn eu hardaloedd.
Mae ardollau o’r fath – a elwir yn aml yn drethi twristiaeth neu’n drethi dinasoedd – yn gyffredin mewn gwledydd ledled Ewrop a thu hwnt ac maent yn gweithredu ar lefel ranbarthol mewn sawl man.
Fel rhan o Gytundeb Cydweithio Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru, byddwn yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno ardollau twristiaeth yng Nghymru i gefnogi a pharchu ein cymunedau a’r ymwelwyr maent yn eu croesawu.