Y Gymraeg
O Ynys y Barri i Ynys Môn, mae Cymraeg yn eiddo i ni i gyd, ac mae Plaid Cymru eisiau i Gymru fod yn wlad wirioneddol ddwyieithog. Er bod cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn hanfodol, dylai dinasyddion allu defnyddio eu dewis iaith yn eu bywydau bob dydd yn rhwydd.
Mae Plaid Cymru yn benderfynol o roi rhodd o ruglder i bob plentyn, gan ddarparu cyllid ychwanegol i gryfhau’r prosiect miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a datblygu mannau Cymraeg newydd. Bydd gan gynghorau rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau bod y Gymraeg yn iaith amlwg yn ein cymunedau, drwy gamau gweithredu megis sicrhau bod y mannau cyhoeddus angenrheidiol ar gael iddo ffynnu, a chefnogi ysgolion i gynnig y ddarpariaeth orau bosibl.
Drwy ein Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi sicrhau ystod o fesurau i gryfhau ein hiaith, gan gynnwys Bil Addysg y Gymraeg, ymrwymiadau i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg, a chefnogaeth i sefydliadau weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd awdurdodau lleol dan arweiniad Plaid Cymru yn helpu i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu cyflawni yn eu cymunedau.