Ynni Cymru ac Ynni Cymunedol

Yng Nghymru, rydym yn cynhyrchu 90% yn fwy o drydan nag a ddefnyddiwn, ac eto mae biliau ein cartref ymhlith yr uchaf yn y DU. Ar adeg pan fo costau byw’n codi – gyda chynnydd aruthrol mewn biliau wrth galon yr argyfwng hwn – cred Plaid Cymru y gall Cymru ateb ei holl alw am ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Diolch i Blaid Cymru, drwy ein Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru, byddwn yn creu Ynni Cymru, cwmni ynni sy’n eiddo cyhoeddus i Gymru. Bydd Ynni Cymru yn helpu Cymru i wireddu ei photensial fel cenedl sy’n gyfoethog o ran ynni ac mae ei hadnoddau o fudd i bobl Cymru, nid allforwyr rhyngwladol.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer Ynni Cymru yn seiliedig ar gynhyrchu ynni gwyrdd, adnewyddadwy gyda ffocws penodol ar brosiectau sy’n eiddo i’r gymuned. Credwn y dylai pob prosiect ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru sydd dros 5MW gael o leiaf rhwng 5 y cant a 33 y cant o berchnogaeth gymunedol a lleol, i gefnogi economïau gwledig ac arfordirol.

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug im_voting_plaid

Cymunedau Cynaliadwy, Gwyrddach: darllen mwy