Lleihau Cost Diwrnod Ysgol
Pan na all plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd oherwydd cost, mae’n anoddach iddynt gyflawni a bod yn hapus yn yr ysgol.
Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau nad yw polisïau ar wisg ysgol, gweithgareddau a digwyddiadau allgyrsiol yn creu rhwystrau i ddisgyblion o deuluoedd ar incwm is, gan sicrhau bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan lawn yn eu haddysg.
Hybiau Bwyd Cyngor Sir Gâr
Bu Cyngor Sir Gâr yn gweithio gyda chyflenwyr lleol i sefydlu hybiau bwyd yn ystod misoedd cyntaf pandemig Covid-19. Yn ogystal â darparu bwyd i blant sydd fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim, darparodd y Cyngor, dan arweiniad Plaid Cymru, fwyd hefyd i deuluoedd y plant hynny. Cafodd y gefnogaeth hon ei hymestyn i gynnwys gwyliau’r Pasg a’r Haf.
✔ Plaid Cymru: Gweithredu dros Gymru
Dwi'n pleidleisio dros y Blaid
10,421 votesGyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.
Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.
Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?
Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.