Mae Plaid Cymru wedi herio’r Ceidwadwyr i gynnwys yr addewid Brexit i wario £350 miliwn yr wythnos ar y GIG yn eu maniffesto ac wedi galw ar i Wasanaeth Iechyd Cymru gael ei chyfran deg.
Dywedodd llefarydd y blaid ar Brexit, Jonathan Edwards, na ddylid gadael i’r Torïaid dorri eu haddewidion yn ddi-gosb.
Dan fformiwla Barnett, byddai Cymru yn cael £17 miliwn bob wythnos petai Llywodraeth y DG yn cadw eu haddewid i wario £350 miliwn yr wythnos ar y GIG.
Addawodd yr ymgyrch Adael, a gefnogwyd gan lawer o Dorïaid amlwg megis Boris Johnson a Michael Gove, y gellid gwario £350 miliwn ar y GIG petai’r DG yn pleidleisio dros Brexit.
Yn ei sylw, dywedodd Jonathan Edward o Blaid Cymru:
“Gwnaeth ASau Torïaidd sy’n gofyn i’r pleidleiswyr eu hail-ethol fis nesaf addewidion clir, a dylid eu cadw at hynny.
“Ni ddylai pleidleiswyr adael i wleidyddion wneud addewidion fyddai wedi golygu hwb sylweddol i’r gwasanaeth iechyd, dim ond i’w hanwybyddu’n llwyr wedi’r bleidlais. Os ydynt yn barod i anwybyddu ymrwymiadau mor bwysig, sut felly y gall unrhyw un ymddiried yn unrhyw beth maent yn ddweud yn yr ymgyrch hon?
“Dylai’r Torïaid gynnwys yr addewid yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ac anrhydeddu’r addewid a wnaeth yr ymgyrchwyr Gadael i bobl ledled y DG llynedd.
“Byddai £350 miliwn yr wythnos yn gyfystyr â £17 miliwn i Gymru bob wythnos, y gellid ei ddefnyddio i ddileu’r cap gwarthus ar dâl gweithwyr y GIG a rhoi i staff y GIG y cyflogau maent yn haeddu. Gellid ei ddefnyddio i recriwtio mwy o nyrsys a mwy o feddygon, gan wneud y gwasanaeth iechyd yn fwy diogel i bawb. Gallai hyd yn oed ganiatáu codi mwy o ysbytai yng Nghymru, fyddai’n dwyn pwysau oddi ar wasanaethau megis wardiau damweiniau a mamolaeth.
“Gall Theresa May ailadrodd y geiriau “cryf” a “sefydlog” faint a fyn, ond y gwir y tu ôl i’r rhethreg yw Prif Weinidog sydd yn hollol benderfynol o werthu ein GIG ynghyd â gweddill ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n manteisio ar Blaid Lafur wan a rhanedig sydd yn rhy flêr i’w gwrthwynebu.
“Mae pobl Cymru yn wynebu dewis clir y mis nesaf - pum mlynedd arall o lywodraeth Dorïaidd gyda gwrthblaid Lafur wan a rhanedig, neu dîm cryf o ASau Plaid Cymru sy’n sefyll i fyny yn erbyn y Torïaid, gan amddiffyn Cymru ac amddiffyn ein GIG.”