7 peth o lansiad maniffesto Plaid Cymru
Lansiodd Plaid Cymru eu maniffesto radical, uchelgeisiol (a sy'n gwbl bosibl i'w gyflawni ei lansio ddoe. Dyma rai uchafbwyntiau.
1. Hon yw'r rhaglen fwyaf radical uchelgeisiol a thrawsnewidiol a gynigir gan unrhyw blaid mewn unrhyw etholiad yng Nghymru er 1945
Nid dim ond adfer ar ôl pandemig byd-eang sydd angen gwneud ond adfer yn dilyn blynyddoedd o lymder gan arwain at dlodi plant, gwasanaeth iechyd ar ei gliniau a gwasanaethau cyhoeddus wedi'u tanariannu.
Bydd maniffesto Plaid Cymru yn sicrhau dyfodol tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus i Gymru. Bydd yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru, yn wynebu’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, yn amddiffyn yr economi yn dilyn y pandemig, ac yn cymryd y camau cyntaf tuag at Gymru annibynnol.
2. Wedi ei gostio - a'i awdurdodi gan ddau economegwyr blaenllaw
Mae maniffesto Plaid Cymru wedi ei gostio a'i wirio'n llawn gan ddau o brif economegwyr Cymru, yr Athro Brian Morgan a'r Athro Gerry Holtham.
Mae cynllun gyda ni a ry' ni'n gwybod sut i dalu amdano - fel noder Dr Eurfyl ap Gwilym fan yma.
3. Mae'n canolbwyntio'n drwm ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Dyw newid yn yr hinsawdd ddim yn fater sydd yn mynd i ddiflannu ac mae angen ei daclo ar frys.
Mae'r maniffesto'n cynnwys cynlluniau ar gyfer Bargen Werdd i Gymru, Deddf Natur a fydd yn diogelu bioamrywiaeth, a’r trydaneiddio ac ehangu rhwydweithiau rheilffyrdd ar raddfa fawr, gan gynnwys creu rhwydweithiau rheilffyrdd rhwng de a gogledd Cymru.
4. Mae'n cynnwys cynlluniau a fydd yn torri'r bil cartref ar gyfartaledd
Gyda’r diwygiadau i system dreth y cyngor, cynnig gofal plant am ddim, a chreu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd a cartrefi gyda rhent teg, byddai biliau cartrefi ledled Cymru yn is o dan gynlluniau Plaid.
Byddwn yn rhoi chwarae teg i deuluoedd Cymru a hwythau yn well eu byd o dan gynlluniau Plaid.
5. Sylw i bobl ifanc
Mae gan y maniffesto gynlluniau mawr ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael eu taro’n arbennig o wael gan y pandemig ac a allai gael eu heffeithio am flynyddoedd i ddod o’i ganlyniadau.
Mae maniffesto Plaid yn cynnwys Gwarant Swyddi Ieuenctid sy'n addo gwaith neu hyfforddiant o ansawdd uchel i bob person ifanc 16-24 oed, trafnidiaeth trên am ddim i bobl ifanc 16-24 oed, a chreu Canolfannau Lles Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc sydd ddim yn ddigon sâl i fod angen uwch triniaeth seiciatryddol, ond angen help.
6. Annibyniaeth
Am y tro cyntaf erioed yn etholiadau Senedd Cymru, mae gan bobl ein gwlad gyfle i bleidleisio i roi eu dyfodol eu hunain yn eu dwylo nhw eu hunain.
Rydyn ni’n credu mai annibyniaeth yw’r unig ffordd bendant a chynaliadwy o sicrhau cynnydd cymdeithasol ac economaidd. Felly, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn grymuso pobl Cymru i benderfynu ar ddyfodol ein gwlad mewn refferendwm annibyniaeth.
7. Bydd Cymru yn cymryd rhan yng nghystadleiaeth Eurovision!
Y rhan pwysica o'r maniffesto i rai oedd bod Plaid Cymru yn mynd i baratoi bid ar gyfer Cymru i gymyrd rhan mewn Eurovision fel gwald ei hun. Bydd baneri Cymru yn hedfan yn torf Eurovision yn y dyfodol.
Ond wir, nawr.
Mae’r pandemig wedi amlygu pwysigrwydd diwylliant a’r rôl enfawr y mae’n ei chwarae yn ein bywydau bob dydd, ond mae’n ddiwydiant sydd wedi dioddef yn fawr o’r pandemig.
Mae'r maniffesto yn cynnwys creu Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cymru i gefnogi 1,000 o weithwyr llawrydd i weithio yn y gymuned ac mewn ysgolion sydd ag incwm sylfaenol o £1,000 y mis am ddwy flynedd, gweithio i sefydlu system ddarlledu Gymreig wedi'i datganoli'n llawn, ac ymrwymiad at cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru yn 2030 neu 2034.
Darllena'r maniffesto yn llawn yma.
Like what you see? Pledge your support today.