7 peth dyw Llafur ddim eisiau i ni wybod am y GIG y gaeaf hwn

frost-snow-theme-new-year-76657.jpg

Wrth i weithwyr y GIG baratoi am amser prysur dros fisoedd y gaeaf, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau sôn am y pwysau ychwanegol y gaeaf hwn ar ein gwasanaeth iechyd. Ond er bod y llywodraeth Lafur yn ddigon parod i ddweud wrthych pam fod rhestri aros hir, staff dan bwysau ac oedi cyn trosglwyddo gofal yn anorfod dros gyfnodau oeraf y flwyddyn, mae rhai pethau nad ydynt am i chi wybod …

1. Mewn gwirionedd, does dim cynnydd mewn derbyniadau i adrannau brys dros fisoedd y gaeaf

Yn sicr, mae’n rhaid i’r GIG weithio’n galetach trwy gydol y gaeaf, ond yn groes i’r gred arferol, mae mwy o bobl yng Nghymru yn dod i adrannau brys yn ystod misoedd yr haf nac yn y gaeaf. Ond tra bod ymwelwyr yr haf yn dod gydag achosion symlach, megis torri esgyrn, mae’r problemau yn y gaeaf yn tueddu i fod yn fwy cymhleth, a mwy o dderbyniadau.

Dyna pam ei bod yn bwysig cadw pobl yn eu cartrefi, yn ogystal â chryfhau ein gwasanaethau yn yr ysbytai.

Dyna pam fod integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn bwysig, er mwyn i ni allu rhoi i bobl yr help y maent ei angen gartref, cyn iddynt fynd yn ddifrifol wael a chyn iddynt orfod mynd i’r ysbyty.

2. Nid atal pobl rhag mynd i adrannau brys yw’r ateb o raid

Rydym yn cytuno y gallai rhai pobl sy’n dod i adrannau brys gael eu trin gan feddygon teulu neu wasanaethau iechyd eraill nad ydynt yn rhai brys. Ond pan fo Llywodraeth Cymru yn ei gwneud mor anodd i gael apwyntiad i weld meddyg teulu, apwyntiad y tu allan i oriau neu ymweliad cartref, allwn ni wir feio pobl am geisio help lle bynnag y gallant ei gael?

Dyna pam fod gan Blaid Cymru gynlluniau i ehangu adrannau brys, fel bod gennyf wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ar y safle, gydag amrywiaeth o staff addas fedr gynnal profion, rhoi diagnosis a thriniaeth. Mae hyn yn cynnwys nyrsys iechyd meddwl a chwnselwyr i ofalu am y sawl sy’n ceisio help, a gweithwyr cymdeithasol fydd ar gael i drefnu pecynnau gofal.

bless-you-cold-disease-302156.jpg

3. Mae Llywodraeth Cymru wedi torri nifer y gwelyau yn yr ysbytai, pan fod arnom angen mwy ohonynt mewn gwirionedd

Rydym oll yn gwybod fod blocio gwelyau yn broblem enfawr, ac yn y gaeaf pan fo mwy o bobl yn cael eu derbyn i wardiau ysbyty, maent yn aml yn gorfod aros am gyfnodau maith o amser cyn i wely ddod ar gael.

Mae ysbytai i fod i aros islaw 85% o welyau wedi eu llenwi, fel na fydd cyfnodau prysur a digwyddiadau annisgwyl yn peri problemau (mae mewn gwirionedd yn helpu i atal firysau a chlefydau rhag lledaenu hefyd). Ond yng Nghymru mae nifer y gwelyau wedi eu torri o un flwyddyn i’r llall oherwydd y gred fod yn rhaid i ni symud ymaith oddi wrth driniaeth mewn ysbytai i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned (gwasanaethau nad ydynt fel petaent fyth yn ymddangos).

Mae’n hawdd iawn dweud beth yw canlyniad hyn – dengys y tabl hwn fod nifer y cyfraddau llenwi gwelyau cyfartalog yn codi wrth i nifer y gwelyau gwympo.

Ac y mae hynny’n golygu mwy a mwy o bobl sâl yn ciwio mewn adrannau brys, yn aros i gael eu gweld.

Mae’r ateb yn syml – rhowch y gorau i wneud hynny a gwrthdroi’r toriadau!

4. Mae gan Gymru lai o feddygon y pen na’r rhan fwyaf o Ewrop, ac y mae hyn yn golygu fod y staff yn y GIG sydd gennym eisoes yn dod dan fwy o bwysau

Mae llawer o swyddi gwag i feddygon a nyrsys mewn ysbytai ledled Cymru, ac y mae traean o’n meddygon teulu yn nesáu at oedran ymddeol. Ond nid ydym yn hyfforddi digon o feddygon i gymryd eu lle, ac y mae’r llywodraeth wedi methu â recriwtio digon ohonynt i lenwi’r swyddi gwag sydd ar gael.

Dan Lafur, mae nifer y meddygon teulu wedi cwympo dros y 3 blynedd a aeth heibio, ac eleni yn unig, y mae bron i 250 yn llai o staff yn y GIG wrth i forâl ddisgyn ac ymgyrchoedd recriwtio fethu â gweithio.

Mae’r llywodraeth Lafur yn gwrthod hyd yn oed â rhoi ffigwr ar faint yn fwy o feddygon - os o gwbl - y tybiant y bydd arnom eu hangen, sydd yn rhyfeddol o gofio mai hwy sy’n gyfrifol am gomisiynu nifer y llefydd hyfforddi bob blwyddyn. Pwy yn union maen nhw’n feddwl fydd yn trin pobl mewn adrannau brys dros y gaeaf? Y meddygon a’r nyrsys presennol sy’n cael eu gwthio i’r eithaf.

Mae Plaid Cymru wedi gosod allan gynlluniau ers amser i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys yn ychwanegol i’r GIG. Mae’n brosiect mawr, ac y mae’n golygu cynyddu nifer y llefydd hyfforddi meddygol mewn prifysgolion, creu ysgol feddygol yn y gogledd, a recriwtio mwy o feddygon o’r tu allan i Gymru i lenwi’r bwlch.
architecture-daylight-door-239853.jpg

5. Mae rhestrau aros am y rhan fwyaf o glefydau yn hwy yng Nghymru nac yng ngweddill y DG    

Mae rhestrau aros yng Nghymru eisoes mewn cyflwr drwg, felly mae unrhyw bwysau ychwanegol dros y gaeaf yn gwneud hyn yn waeth. Mewn gwirionedd, mae Cymru’n perfformio’n waeth na gweddill y DG pan ddaw’n fater o drin y rhan fwyaf o fathau o salwch – does gan Lywodraeth Cymru yn wir ddim esgusodion. 

Ac eto, yn rhy aml, y modd mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phwysau ychwanegol yn y gaeaf yw canslo triniaethau fel bod mwy o allu i gynnal triniaethau brys pan fo cynnydd yn y galw. Fodd bynnag, dyw hyn ond yn arwain at restrau aros hwy ar gyfer triniaethau, a bydd y sawl sy’n aros am driniaethau yn fwy tebygol o alw mewn adrannau brys.

Dyw hi ddim yn syndod mai’r wlad gyda’r perfformiad gorau mewn adrannau brys – yr Alban – hefyd yw’r wlad gyda’r perfformiad gorau mewn amseroedd aros.

6. Mae cyllidebau cynghorau yn cael sgil-effeithiau enfawr ar y GIG

Os digwydd i chi ddweud pam y gallai’r GIG fod yn gweithio’n well, ymateb y llywodraeth Lafur yn wastad yw dweud wrthych am y miliynau a’r biliynau o bunnoedd maent yn eu buddsoddi ar waethaf yr hinsawdd ariannol caled. Yr hyn nad ydynt yn ddweud yw eu bod yn torri mewn mannau eraill, a bod hynny’n cael effaith enfawr ar y GIG.

Mae’r llywodraeth yn camddeall y pwynt yn llwyr - nid dim ond yr arian y byddwch yn ei roi i’r GIG sy’n pennu pa mor dda mae’r GIG yn ymdrin â’r gaeaf - mae’n fater o a all cynghorau lleol ddarparu gofal cymdeithasol i gadw pobl yn iach yn eu cartrefi, a yw’r cartrefi y mae pobl yn byw ynddynt yn llaith neu’n oer ac felly’n eu gwneud yn wael, neu a yw’r ffyrdd yr ydym yn cerdded arnynt yn llawn tyllau neu heb eu graeanu mewn tywydd oer.

Dyw hi ddim yn syndod fod y ffigyrau gwaethaf am berfformiad adrannau brys wedi dod yn y blynyddoedd diwethaf yn dilyn toriadau enfawr i lywodraeth leol.

Ac ydym, rydym yn gwybod mai Llywodraeth Geidwadol y DG sydd wedi gwneud y toriadau, ond Llafur sydd yn dewis i lle maent yn pasio’r toriadau. Ac ni ddylem anghofio fod Llafur wedi pleidleisio yng nghyfnod llymder yn ôl yn 2015 pan wnaethant gefnogi siarter llymder Llywodraeth y DG.

A dyma'r gyfrinach fwyaf oll …

7. Ddylai pwysau’r gaeaf ddim bodoli!

Mae’r gaeaf yn digwydd bob blwyddyn. Mae mor rhagweladwy â chlirio’r rhew oddi ar ffenest eich car, a chiwio am sêls ar Ddydd San Steffan. Nid yw’n annisgwyl ac fe ddylid cynllunio ar ei gyfer fel rhywbeth arferol.

Ni ddylai’r Llywodraeth Cymru gael eu dal pan fo mwy o alw yn ystod y tywydd oer, ond dyna sy’n digwydd. Petai’r llywodraeth Lafur yn fwy llwyddiannus yn cadw rhestrau aros yn is, staffio’r gwasanaeth iechyd yn iawn, adeiladu capasiti a chyflymu trosglwyddiadau gofal, yna byddai’r galw cynyddol hwn yn cael ei gymryd i mewn i’r system.

Felly os digwydd i chi orfod mynd i’r ysbyty y gaeaf hwn, cofiwch feddwl am y staff sy’n cael eu gorfodi i weithio’n galetach nac y mae’n rhaid iddynt oherwydd methiannau’r llywodraeth Llafur.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.