1. Parhau gyda’r cloi

Buom yn rhy araf yn cloi. Mae angen i ni beidio â gadael yn rhy sydyn. Byddai gadael y cloi yn rhy gynnar yn ddrwg i Gymru, ac y byddai llacio’r cyfyngiadau yn Lloegr yn ddrwg hefyd i Gymru.


2. Cyfyngiadau ar Deithio a Phreswylio

Mae angen i Lywodraeth y DG roi’r grym i Gymru mewn deddfwriaeth ac mewn anfon negeseuon i alluogi cyfyngiadau ar deithio a phreswylio fel nad yw polisïau yng Nghymru yn cael eu tanseilio.

Os bydd angen, dylid cyflwyno cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru, a rhwng Cymru a rhannau eraill y Deyrnas Gyfunol.

Yn yr un modd, dylai teithio rhyngwladol fod yn destun cwarantin 14-diwrnod.


3. Model Seland Newydd

Rhaid rhoi blaenoriaeth i ostwng ‘R’, yn hytrach na rheoli nifer yr achosion seiliedig ar yr hyn y gall y Gwasanaeth Iechyd ei drin. Mae hyn yn golygu gostwng y nifer R yn is na 0.5 a lleihau nifer yr achosion er mwyn mynd â nifer y marwolaethau y mae modd eu hosgoi i lawr i sero.


4. Profi ac Olrhain

Rhaid i’r gallu i gynnal profion, olrhain ac ynysu yn llawn fod yn barod erbyn diwedd y cyfnod tair wythnos hwn.


5. Cartrefi Gofal

Strategaeth benodol i leihau clystyrau o achosion mewn cartrefi gofal seiliedig ar dryloywder ar nifer R mewn cartrefi gofal a pholisi o brofi yn gyffredinol ar gael ym mhob cartref gofal.


6. Cyfnod Addasu

Wrth i ni ddod i’r cyfnod addasu, a phan fydd hynny’n briodol, dylai hyblygrwydd lleol fod yn rhan o’r strategaeth. Unwaith i ni lwyddo i atal nifer yr achosion newydd yn genedlaethol, bydd modd mabwysiadu agwedd fwy lleol, gyda’r gallu i ail-osod mesurau cloi yn sydyn petai clystyrau newydd yn dod i’r fei.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd o blaid agwedd fel hyn wedi’i thargedu’n lleol.


7Cefnogaeth Economaidd

Ni ddylid diffodd y peiriant cynnal bywyd economaidd. Ni ddylai cenhedloedd sy’n gorfod parhau i gloi am resymau iechyd cyhoeddus fod dan anfantais oherwydd unrhyw newidiadau i gefnogaeth economaidd. Dylid cynnal y lefelau presennol o gefnogaeth ariannol yn y cenhedloedd hynny sydd ei angen.