Dywed Plaid Cymru y gallai “manteision addysgol” i ddwyn cychwyn tymor yr hydref ymlaen.

Dywedodd AS Plaid Cymru a’r Gweinidog Addysg cysgodol Siân Gwenllian y byddai’n well i ddisgyblion gan y byddai’n rhoi gwell cysondeb, cynnydd a sefydlogrwydd ar adeg pan fo bywydau plant a phobl ifanc yn dioddef tarfu enfawr.

Ychwanegodd Ms Gwenllian y gallai hyn baratoi’r ffordd at newidiadau parhaol y mae mawr eu hangen, a rhoi cyfle i feddwl am ail-ffurfio’r flwyddyn draddodiadol o dri thymor mewn modd mwy cydlynus a mwy cydnaws ag anghenion y byd modern.

Yr oedd adolygiad annibynnol Dysgu: proffesiwn â gwerth cyn hyn wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn i ystyried ‘ail-ddychmygu’ ein hysgolion i’w gwneud yn llefydd mwy cydnaws i ddysgu ac yn fwy cyfeillgar i deuluoedd.  

Dywedodd Ms Gwenllian fod ymchwil wedi dangos fod “cysondeb a chynnydd” yn elfennau pwysig mewn dysgu. Dywedodd fod athrawon a disgyblion ar hyn o bryd yn cael “hanner tymhorau dwys” ac yna gwyliau byr, a bod hyn yn blino athrawon a disgyblion fel ei gilydd. Ychwanegodd Ms Gwenllian fod llawer o athrawon yn dweud fod tymor yr haf yn “rhy hir” - yn enwedig i blant nad ydynt yn cael cefnogaeth i’w dysgu yn y cartref.

Dywedodd y Gweinidog Addysg cysgodol mai nawr “efallai yw’r amser” i “edrych eto” ar drafodaethau yn sgil yr argyfwng Coronafeirws ac y gellid ystyried newid tymhorau ysgol “yn barhaol”.

Ar ddydd Gwener, dywedodd Undeb Addysg Genedlaethol (NEU) Cymru y rhoddwyd y gorau i gynlluniau i ddwyn gwyliau ysgol yr haf yng Nghymru ymlaen fis.

Fodd bynnag, dywedodd Ms Gwenllian y dylid parhau i “edrych i mewn yn llawn” i ddwyn gwyliau haf eleni ymlaen, gan agor ysgolion fesul cam graddol ym mis Awst yn unig os bydd modd gwneud hynny’n ddiogel.

Ond pwysleisiodd y Gweinidog Addysg cysgodol y dylid yn y cyfamser fireinio dysgu o bell, ac y dylai pob ysgol ganolbwyntio ar ymwneud a phob disgybl a gwneud yn siŵr nad oedd yr un plentyn yn “cael ei adael ar ôl”.

Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Siân Gwenllian AS,

“Dylid parhau i ymchwilio’n llawn i fanteision addysgol dwyn gwyliau haf eleni ymlaen a chychwyn tymor yr hydref ym mis Awst. Yna gellid dechrau ail-agor ysgolion yn raddol fesul cam ym mis Awst os bydd yn ddiogel gwneud hynny.

“Cyn yr argyfwng Coronafeirws yr oedd trafodaethau’n digwydd am hyd tymhorau ysgol a’r angen i newid o dri thymor ysgol i bedwar, a gwneud gwyliau’r haf yn fyrrach.

“Mae angen i ni ail-gychwyn y trafodaethau hynny yn sgil Coronafeirws ac efallai mai nawr yw’r amser ystyried newid tymhorau ysgol yn barhaol ac ail-ffurfio patrwm y flwyddyn ysgol.

“Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae tymhorau o hyd gwahanol, a gwyliau’n dod yn afreolaidd, ac eto, mae ymchwil yn dangos fod cysondeb a chynnydd yn elfennau pwysig mewn dysgu. Ar hyn o bryd, mae athrawon a disgyblion yn cael yr hanner tymor dwys ac yna gwyliau byr. Tua diwedd pob tymor, mae pawb wedi blino. Ar y llaw arall, dywed llawer o athrawon fod tymor yr haf yn rhy hir, gydag wythnosau cyntaf tymor yr hydref yn cael eu defnyddio i ddal i fyny, yn enwedig i blant nad ydynt yn cael cefnogaeth i’w dysgu gartref.

“Yn y cyfamser, rhaid i ni roi pwys ar barhau i fireinio dysgu o bell. Dylai hyn fod yn ganolog i’r cynlluniau i ail-agor ysgolion yn raddol. Dylai hefyd fod yn rhan annatod o gynllunio at y dyfodol wrth i ni barhau i ymdrechu i gau’r bwlch digidol/tlodi a’r bwlch cyrhaeddiad. Rhaid i’n system addysg ganolbwyntio ar ymwneud â phob plentyn a gwneud yn siwr nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl.