‘Byddai diddymu’r Ddeddf Parhad yn awr yn weithredol o kamikaze cyfansoddiadol’

raf_(3).jpg

Arweinydd Plaid Cymru a’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Faterion Allanol yn gwneud ple o’r galon cyn y bleidlais dyngedfennol yn y Cynulliad

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC a’r Ysgrifennydd cysgodol dros Faterion Allanol Steffan Lewis AC, wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i ail-feddwl cyn diddymu’r Ddeddf Parhad. Bwriada Llywodraeth Cymru ddiddymu’r Ddeddf heddiw [Mawrth Tachwedd 20].

Byddai diddymu’r Ddeddf hon yn awr yn gamgymeriad yn ôl Plaid Cymru oherwydd:

  • Y byddai’n rhoi pwerau Cymru ymaith i San Steffan yn erbyn ewyllys pobl Cymru
  • Ffolineb fyddai trosglwyddo pwerau Cymreig i lywodraeth San Steffan sydd mewn llanast llwyr
  • Bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu ar statws Bil Parhad yr Alban a allai gael effaith sylweddol ar Ddeddf Parhad Cymru

Wrth siarad cyn y ddadl i ddiddymu’r Ddeddf, dywedodd Adam Price AC:

“Byddai diddymu’r Ddeddf Parhad pan fo gwleidyddiaeth y DG  mewn cyflwr o ansefydlogrwydd mor ddifrifol yn weithred o kamikaze cyfansoddiadol.  

“Byddai’n rhagrithiol ac yn hollol annealladwy i Lywodraeth Cymru wrthwynebu’r cytundeb ymadael ar y naill law ac ar yr un pryd ganiatáu iddo basio’n ddiwrthwynebiad trwy’r Cynulliad. 

“Gadewch i ni o leiaf aros i weld beth fydd yn digwydd fel y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddod i benderfyniad pan fydd yr holl ffeithiau perthnasol i wahaniad y DG oddi wrth yr UE yn amlwg. Wyddom ni ddim ar hyn o bryd a all y llywodraeth bresennol barhau tan ddiwedd yr wythnos, heb sôn am lle byddwn ni erbyn Mawrth 2019.

“Mae arnom ni hynny o ddyled i genedlaethau’r dyfodol fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau’r penderfyniad i drosglwyddo pwerau Cymreig i lywodraeth San Steffan sydd, i bob golwg, yn benderfynol o ddinistrio ei hun.”

Wrth wneud ple o waelod calon i ACau o bob plaid i bleidleisio yn erbyn diddymu’r Ddeddf, dywedodd y sawl a’i lluniodd, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol Steffan Lewis AC:

“Cynigiais Fil Parhad Cymreig llynedd er mwyn ymgorffori holl reoliadau’r UE yng nghyfraith Cymru.

“Pwrpas y Bil hwn oedd sicrhau y byddai’r safonau sydd mor bwysig i ni, megis gwarchodaeth yr amgylchedd, safonau bwyd, a’r hawliau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol fel dinasyddion yr UE, yn parhau i fod yn gymwys i Gymru wedi Brexit.

“Fe’i bwriadwyd hefyd i atal Mesur Ymadael yr UE y Ceidwadwyr rhag troi yn ymgais gan San Steffan i gipio grym dros faterion sydd eisoes wedi eu datganoli.

“Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb na chafwyd mandad iddo gyda Llywodraeth y DG fyddai’n ildio pwerau Cymru mewn 26 maes polisi yn gyfnewid am addewidion gwag.

“Pan ofynnwyd iddynt mewn pleidlais, mae pleidleiswyr Cymru wedi rhoi mandad ddwywaith i fwy o bwerau gael eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol  – ym 1997 a 2011. Wnaethon nhw erioed bleidleisio am i bwerau gael eu dwyn ymaith.

“Mae’n amlwg i bawb fod Llywodraeth y DG a senedd San Steffan mewn llanast llwyr. Byddai rhoi iddynt y pwerau i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig yn anghyfrifol i’r eithaf a gallai achosi niwed mawr i’n sector amaethyddol, camau gwarchod amgylcheddol a safonau bwyd.”

Dywed Mr Lewis na fyddai diddymu’r Ddeddf yn gwneud synnwyr o gwbl cyn i’r Goruchaf Lys roi ei ddyfarniad ynghylch a yw Mesur Parhad yr Alban o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban;

“Mae’r Goruchaf Lys ar fin dyfarnu ynghylch Mesur Parhad yr Alban.

“Os bydd y Goruchaf Lys yn dyfarnu o blaid yr Alban, golygai hynny uwchraddio Deddf Parhad Cymru yn darian ddeddfwriaethol o’r radd flaenaf.

“Byddai ein pwerau yn ddiogel, ac o’r diwedd byddai gan Gymru'r arfau dylanwadu gwleidyddol na fu gennym trwy gydol proses Brexit.

“Dylai Aelodau Cynulliad o leiaf aros tan y dyfarniad cyn pleidleisio i ddiddymu’r Ddeddf, fel y gallant wybod i sicrwydd beth yn union sydd yn cael ei ddiddymu.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.