“Miloedd yn disgyn drwy’r craciau” yn y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws, honna’r Blaid
Mae miloedd o bobl yn disgyn drwy’r craciau yng Nghynllun Cadw Swyddi Coronafeirws Llywodraeth y DG, dywed Plaid Cymru.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Helen Mary Jones AC, nad oedd y sawl fuasai wedi bod yn newid swyddi pan ddechreuodd y cloi i lawr ac y cyflwynwyd y cynllun wedi bod yn gymwys am y cynllun cadw.
Ar hyn o bryd, mae’r Trysorlys ond yn derbyn unigolyn fel ‘gweithiwr dilys’ petaent ar gyflogres y busnes neu’r sefydliad ar ddyddiad y torbwynt neu cyn hynny, a symudwyd yr wythnos diwethaf i Fawrth 19.
Nid yw gweithwyr newydd a delir yn fisol fel arfer yn ymddangos ar y gyflogres tan ddiwedd y mis y cyflogwyd hwy gyntaf, felly ni fyddai’r rhai a gychwynnodd mewn swydd newydd ar Fawrth 1 yn ymddangos ar y gyflogres tan y 31ain ac ni fuasent o’r herwydd yn gymwys i’r cynllun.
Dywedodd Ms Jones fod Llywodraeth San Steffan wedi awgrymu y dylai pobl sy’n cael eu hunain yn y sefyllfa hon “fynd yn ôl at eu cyflogwyr blaenorol a gofyn am gael eu rhoi ar y rhestr seibiant yno”; fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog cysgodol dros yr Economi fod llawer o gyflogwyr yn “gwrthod gwneud hyn”.
Ychwanegodd Ms Jones na fyddai’r bobl hyn chwaith yn gymwys am gredyd cynhwysol gan eu bod yn dechnegol yn gyflogedig hyd yn oed os nad oeddent yn cael eu talu.
Dywedodd Tiffany Elliot-Harrison o Saltney yn Sir y Fflint ei bod yn y broses o newid swyddi pan gychwynnodd y cloi i lawr. Roedd i fod i gychwyn yn ei swydd newydd mewn hosbis leol ar Ebrill 2, a rhoes rybudd i’w hen swydd ar ddechrau Mawrth.
Fodd bynnag, tynnwyd ei swydd newydd yn ôl oherwydd effaith y Coronafeirws a gwrthododd ei chyn-gyflogwr ei hail-gyflogi a rhoi seibiant iddi er ei bod yn gymwys.
Dywed Ms Elliot-Harrison fod Credyd Cynhwysol wedi’i wrthod iddi a’i bod yn awr yn byw ar £74 yr wythnos trwy Lwfans Ceiswyr Swyddi. Mae ganddi gyflwr ar ei chalon, felly mae’n anodd dod o hyd i swydd newydd.
Dywed ei bod yn teimlo’n “hollol ddigalon”.
Galwodd Ms Jones ar i’r Trysorlys dderbyn prawf dilys o benodiad megis copïau o lythyr penodi neu gontract wedi ei lofnodi fel tystiolaeth fod unigolyn yn weithiwr newydd ac yn gymwys i gael seibiant.
Ychwanegodd y Gweinidog cysgodol dros yr Economi, pe na bai Llywodraeth San Steffan yn helpu, yna y dylai Llywodraeth Cymru helpu trwy gyflwyno Incwm Sylfaenol Cymreig Brys.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Helen Mary Jones AC,
“Mae miloedd o bobl yn cwympo drwy’r craciau ac yn methu cael eu cynnwys yng Nghynllun Cadw Swyddi Coronafeirws Llywodraeth y DG am eu bod wedi newid swydd ar yr union adeg y cychwynnodd y cloi i lawr ac y cyflwynwyd y cynllun, sy’n eu gwneud yn anghymwys i gael seibiant.
“Mae Llywodraeth San Steffan yn awgrymu fod pobl yn y sefyllfa hon yn mynd yn ôl at eu hen gyflogwyr a gofyn am seibiant yno, ond y mae llawer o gyflogwyr yn gwrthod gwneud hyn. Efallai nad yw’r bobl hyn yn gymwys am fudd-daliadau chwaith, gan eu bod yn dechnegol yn gyflogedig hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu talu.
“Diolch i amryfusedd amlwg Llywodraeth San Steffan, mae miloedd o bobl yn wynebu tlodi ac ansicrwydd. Rhaid i Lywodraeth San Steffan unioni hyn trwy alluogi’r Trysorlys i dderbyn prawf dilys o benodiad megis copïau o lythyr penodi neu gontract wedi ei lofnodi fel tystiolaeth fod yr unigolyn yn weithiwr newydd dilys ac o’r herwydd yn gymwys am seibiant.
“Mae cannoedd o bobl wedi bod mewn cysylltiad â mi yn pryderu ynghylch lle mae hyn yn eu gadael. Does gennym ni ddim syniad faint o bobl yng Nghymru fydd yn cael eu gadael heb unrhyw fath o incwm oherwydd hyn. Os na wnaiff Llywodraeth San Steffan gymryd camau i helpu’r bobl hyn, yna rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hynny - trwy gyflwyno Incwm Sylfaenol Cymreig Brys.
Dywedodd Tiffany Elliot-Harrison,
“Fe gefais swydd newydd yn gweithio i hosbis leol ychydig cyn y cloi i lawr. Roeddwn i fod i gychwyn ar Ebrill 2, a chyflwynais fy rhybudd i’m cyflogwr blaenorol ar ddechrau Mawrth.
“Fodd bynnag, bythefnos cyn i’m swydd newydd gychwyn, tynnwyd y swydd yn ôl oherwydd y Coronafeirws a bod yr hosbis ei hun yn cael trafferth i oroesi. Mae fy hen gyflogwr wedi gwrthod fy ail-gyflogi a rhoi seibiant i mi er fy mod yn gymwys.
“Gwrthodwyd Credyd Cynhwysol i mi, ac yr wyf yn byw ar ddim ond £74 yr wythnos trwy Lwfans Ceiswyr Swyddi. Mae gen i gyflwr ar fy nghalon sy’n golygu y bydd dod o hyd i swydd newydd yn yr hinsawdd bresennol yn wirioneddol anodd, os nad yn amhosib. Mae’n enbyd. Mae yna rai dyddiau pan fydda’i yn teimlo mor hollol ddigalon. Wn i ddim beth ar y ddaear i wneud.
“Nid yw’r newid a gyhoeddodd Llywodraeth y DG o ymestyn y dyddiad i Fawrth 19 yn ddim ond anwiredd; ni fydd yn helpu’r 200,000 o bobl sydd wedi hawlio. Rydym yn dal i frwydro am newid.