'Gallai Cymru fod yn genedl bwyd organig mewn degawd’

o2.jpg

Gallai Cymru fod yn genedl bwyd organig mewn degawd – dyna’r neges gan gynrychiolwyr Plaid Cymru pan fyddant yn cwrdd â chynrychiolwyr ffermwyr ddydd Iau ar fferm yn Llanybri, Sir Gaerfyrddin.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddyfodol taliadau ffermydd, gyda chynigion i sefydlu system newydd erbyn 2025.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas:

“Rwy’n cyhoeddi targed yr wythnos hon i wneud  Cymru 30 y cant yn organig erbyn 2030. Fel gwlad fechan, gallai Cymru bwysleisio’r hyn sy’n ei gwneud yn arbennig trwy ei gwerthu ei hun fel cenedl bwyd organig. Mae angen ymateb radical i bosibilrwydd Brexit. Gallwn ddefnyddio cynllun taliadau fferm newydd i annog a galluogi ffermwyr i drosi i ffermio organig. 

“Mae angen ymgyrch farchnata strategol hefyd gyda’r nod o werthu cynnyrch organig Cymru dramor ac yng ngweddill y DG. Y DG oedd y farchnad drydedd uchaf am gynnyrch organig yn 2015, a gallai hyn olygu y gallai Cymru weld marchnad fawr a hygyrch i nwyddau organig, waeth beth fydd proses Brexit yn ei daflu atom.

“Gwyddom fod pob punt a werir o’r Cynllun Datblygu Gwledig ar gynnyrch organig yn esgor ar £21 mewn masnach am gynnyrch organig yng Nghymru, sy’n dod â £140miliwn i mewn i economi ein gwlad bob blwyddyn. Os na allwn gwrdd â’r galw cynyddol mae perygl y gallwn golli  nid yn unig gynhyrchwyr posib ond hefyd gwmniau organig Cymreig amlwg a all ddewis ehangu yn nes at eu cadwyn gyflenwi.”

“Mae pryder fod yr ymgynghori presennol ar gefnogaeth i ffermwyr gan y llywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru yn torri’r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd iachus a pharhad y gefnogaeth o ran taliadau. Rwy’n credu bod cynhyrchu bwyd ynddo’i hun yn beth llesol i’r cyhoedd, ynghyd â’r manteision amgylcheddol sy’n gysylltiedig ag ef.

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig,  AS Ceredigion Ben Lake:

“Mae amaethyddiaeth Cymru ac yn enwedig ffermydd da byw yn ddibynnol iawn ar incwm o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Er ei bod yn wir dweud nad oedd y PAC yn ddi-fai, fe fu’n bwysig iawn i lawer o ffermwyr Cymru, a rhaid cydnabod hyn. Yn y tymor byr, bydd parhad cefnogaeth ariannol yn hanfodol er mwyn cynnal y sector amaeth yng Nghymru.

“Bydd grŵp ASau Plaid Cymru yn parhau i ddal San Steffan i gyfrif er mwyn sicrhau bod Cymru yn derbyn ei chyfran deg o gyllid ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth. Cyn cyfnod pwyllgor y Mesur Amaethyddiaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, rhaid i’r llywodraeth Geidwadol gytuno gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar fecanwaith i ddyrannu cyllid yn y dyfodol ar gyfer cefnogaeth amaethyddol.”

Mae ffermio organig ar hyn o bryd yn cael ei fesur ar ganran tir amaethyddol, yn hytrach na chanran cynhyrchwyr neu gynnyrch amaethyddol.

Byddai mesur canran y tir hefyd yn helpu i asesu’r defnydd cynaliadwy o dir amaethyddol.

Darllenwch yr adroddiad yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.