“Wnawn ni ddim setlo am ‘run geiniog yn llai”

BeFunky-collage.jpg

Ben Lake AS a Rhun ap Iorwerth AC yn lansio Cynllun Cronfa Rhannu Ffyniant Plaid Cymru

Mae Ben Lake ASa Rhun ap Iorwerth ACyn mynnu “‘run geiniog yn llai” wrth ddatgelu eu Cynllun Cronfa Rhannu Ffyniant i Gymru.

Er i ymgynghoriad gael ei addo ar gynllun a gweithredu’r gronfa cyn diwedd 2018, nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi cyhoeddi unrhyw fanylion am y system newydd am neilltuo cyllid wedi Brexit ledled y DG.

Rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru wedi derbyn dros £2 biliwn o Gronfeydd Strwythurol Ewrop. Bwriad y cronfeydd hyn yw lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol trwy helpu i gefnogi pobl i mewn i waith a hyfforddiant, gwaith i ieuenctid, ymchwil ac arloesedd, cysylltedd ac amrywiaeth eang o brosiectau datblygu.

Yn ystod refferendwm 2016, addawodd yr ymgyrch Pleidlais Adael na fyddai Cymru yn “colli ‘run geiniog” petaem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan honni yn hytrach y byddai Cymru “ar ei hennill”. Er hynny, nid yw Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau a gedwir lefel bresennol y cyllid yn y tymor hir petaem yn gadael yr UE.

Yn niffyg unrhyw gynigion gan Lywodraeth Prydain ar gynllun a gweithredu Cronfa Rhannu Ffyniant y DG, comisiynodd Plaid Cymru adroddiad yn ymchwilio i’n dewis o fodel cyllido. Yr adroddiad hwn yw ein hymateb swyddogol i Ymgynghoriad Cronfa Rhannu Ffyniant y DG, pan gaiff ei gyhoeddi o’r diwedd.

Cynhelir y lansiad swyddogol yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Pontio Bangor ar ddydd Gwener, 22 Mawrth am 11.00.

Dyma brif ofynion Cynllun Cronfa Rhannu Ffyniant Plaid Cymru:

  1. ‘Run Geiniog yn Llai

-                Addawodd y Bleidlais Adael na fyddai Cymru yn colli’run geiniog petaem yn gadael yr UE

  1. Rheolir yng Nghymru

-                Dylai penderfyniadau am y modd mae arian yn cael ei wario yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru

  1. Neilltuo yn ôl angen, nid poblogaeth

-                Dylai dosbarthu arian fod y tu allan i Fformiwla Barnett

  1. Cyflawni i Gymru

-                Dylid monitro cynnydd i ofalu bod cyllid yn cyflawni i Gymru

Yn ei sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar Faterion CymreigLake AS:

“Addawodd y Bleidlais Adael na fyddai Cymru yn colli’r un geiniog petaem yn pleidleisio i adael yr UE - mae Plaid Cymru yn eu dal i gyfrif. Mae  Cymru ar hyn o bryd yn derbyn £245 miliwn yn fwy y flwyddyn gan yr UE na’r hyn mae’n dalu i mewn, sy’n adlewyrchu tangyllido difrifol a chronig gan Lywodraeth y DG.

“Mae egwyddor ailddosbarthu rhanbarthol wedi ei wreiddio yng ngwead yr UE, tra bod obsesiwn gyda Llundain wedi ei wreiddio yng ngwead y DG. Mae’r anghydraddoldeb gwaethaf o unrhyw un o Aelod-Wladwriaethau’r UE rhwng Llundain a Chymru - byddai gadael yr UE yn gwneud hyn yn waeth.

 “Ar waethaf addewidion gwag Llywodraeth Prydain o Gronfa Rhannu Ffyniant, nid ydym wedi gweld unrhyw fanylion na gwybodaeth am statws yr ymgynghoriad. Yn niffyg unrhyw gynigion gan Lywodraeth Prydain, byddai ein cynllun yn gwneud yn siŵr bod ein cymunedau yn parhau i dderbyn arian hanfodol, waeth beth fyddai ein sefyllfa yn Ewrop. 

“Yr ydym yn gwneud yn glir i Theresa May na ddylai Cymru dderbyn yr un geiniog yn llai dan y Gronfa Rhannu Ffyniant newydd na’r hyn a dderbyniwn ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi a Chyllid yn y Senedd:

“Mae’r diffyg gwybodaeth a blaengynllunio llwyr ar y ffrwd gyllid hanfodol hon yn peri dychryn.

“Fydd chwarae o gwmpas yr ymylon a setlo am economi cyflog-isel, sgiliau-isel yng Nghymru yn dda i ddim bellach – mae arnom angen cynllunio go-iawn a phrosiectau seilwaith uchelgeisiol a thrawsnewidiol ar raddfa fawr.

“Tra bod ffurf y gronfa hon yn hanfodol i ni ddal y Bleidlais Adael i gyfrif a dechrau lleihau anghydraddoldeb rhanbarthol  ar draws y DG, dylai fod yn rhan fechan yn unig o’r model cyllido at y dyfodol yr ydym yn ragweld ar gyfer y Gymru Newydd.

“Aros yn yr UE yw’r sefyllfa orau i Gymru ond fel gwrthblaid gyfrifol, yr ydym yn paratoi ar gyfer pob posibilrwydd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.