‘Gall Cymru’ – arweinydd y Blaid yn cyhoeddi ‘maniffesto’ i annibyniaeth Cymru

44436082864_a8cd303f8b_o.jpg

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw’n cyhoeddi casgliad o erthyglau nodedig y gellir eu hystyried fel ‘maniffesto’ i annibyniaeth Cymru.

Mae Wales – The First and Final Colony gan Adam Price, a gyhoeddir yr wythnos hon gan Y Lolfa, yn gasgliad o erthyglau gan y gwleidydd ac arweinydd Plaid Cymru ar wleidyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru. Ynddo, mae Adam yn cynnig ei syniadau ar gyfer sicrhau dyfodol disgleiriach i Gymru.

Ganed Adam Price i deulu dosbarth gweithiol mewn tŷ cyngor yn Sir Gâr, yn fab i Rufus, glöwr a phencampwr bocsio, ac Angela, oedd wedi symud i Gymru o Gaerwrangon. 

Yn 31 oed, fe’i hetholwyd yn AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn 2001 ac ymhen blwyddyn, yr oedd wedi datgelu ymwneud amheus rhwng Tony Blair a’r dyn busnes rhyngwladol ym maes dur, Lakshmi Mittal. Yn fuan wedyn, arweiniodd ymgyrch i uchelgyhuddo Mr Blair yn dilyn yr ymosodiad ar Irac - a arweiniodd yn y pen draw at Ymchwiliad Chilcot.

Fodd bynnag, yn 2010 ymddiswyddodd o’r Senedd a mynd i Ysgol Llywodraethiant Kennedy yn Harvard, cyn ymgymryd â swydd mewn sefydliad menter.

Dychwelodd i wleidyddiaeth rheng-flaen yng Nghymru yn 2016 pan gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad yng Nghaerfyrddin, ei ardal enedigol, cyn dod wedyn yn arweinydd Plaid Cymru ar 28 Medi 2018.

Wrth siarad cyn cyhoeddi’r llyfr, meddai Adam Price, 

“Fe dyfais yng nghysgod ymdrech y glowyr ym 1984. Ymdrech oedd hon a luniodd y wleidyddiaeth sydd gen i heddiw.

Dyw mynd o dŷ cyngor i Dŷ’r Cyffredin ac o Harvard i Gaerdydd ddim yn llwybr cyfarwydd, ond yr wyf yn awr yn wynebu her fwyaf fy ngyrfa wleidyddol – arwain mudiad cenedlaethol Cymru. Ond rhaid i fy neges i a neges Plaid Cymru i bobl Cymru fod yn syml: Gall Cymru.

Fel y gŵr agored hoyw cyntaf i arwain y blaid hon ac, yn wir, unrhyw blaid yng Nghymru, rwyf yn arweinydd modern, cynhwysol i Gymru fodern, gynhwysol.

Yr wyf yn hyderus y gallwn lunio dyfodol newydd i Gymru newydd. Nid Llafur fydd ei awdur. Ac ni fydd yn cael ei ysgrifennu i ni ym mherl gynteddau Whitehall a San Steffan. Fe’i hysgrifennir yn strydoedd a siopau, tafarndai a chlybiau rygbi, cartrefi a chalonnau ein cenedl.

Gall rhai wfftio ein gobaith fel optimistiaeth ddall. Yr hyn ddyweda’i yw nad dyhead pellennig ac anghyraeddadwy yw Cymru lwyddiannus, annibynnol. Mae’n nod cadarn, tymor agosach y gellir ei wireddu.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.