Arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw am fodel o gydweithredu rhwng gwledydd Prydain ar ôl annibyniaeth sy'n seiliedig ar 'Benelux'

Adam_conference.jpg

Mewn araith gyweirnod, dan y teitl ‘Benelux Britain: Re-casting relations in the post-independence era’, yn y Ganolfan ar Newid Cyfansoddiadol ym Mhrifysgol Caeredin, mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi dweud y dylai gwledydd Prydain fabwysiad model o gydweithredu yn seiliedig ar wledydd Benelux, unwaith iddynt ddod yn annibynnol.

Amlinellodd yr araith – sef araith fawr gyntaf Mr Price ar bwnc annibyniaeth ers dod yn arweinydd Plaid Cymru – weledigaeth Mr Price i Gymru, yr Alban a Lloegr “gydfyw mewn cydraddoldeb, a thrwy hynny, mewn cytgord.”

Dadleuodd Mr Price y byddai annibyniaeth, a chydweithredu, o gymaint o fudd i Loegr ag i’r Alban a Chymru, a chyfeiriodd at sut y caiff pŵer a ffyniant eu canoli yn ne ddwyrain Lloegr ar draul y gogledd.

Esboniodd sut y gellid cryfhau Cymru, yr Alban a Lloegr trwy roi eu sofreniaeth ynghyd fel gwledydd annibynnol, a soniodd am esiampl Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, a Lwcsembwrg, a wnaeth yn union hynny.

Yn yr araith, dywedodd Mr Price fod ei weledigaeth am ddyfodol Prydain a Phrydeindod yn “un ble mae ei gwledydd cyfansawdd yn dod at ei gilydd i greu ymwybyddiaeth ddinesig newidd a phartneriaeth newydd rhwng gwledydd sy’n gyfartal.”

Ar ôl annibyniaeth, dadleuodd Mr Price y byddai Cydffederasiwn Brytannaidd yn gallu cydweithredu mwy cyfartal rhwng seneddau, llywodraethau, a systemau barnwrol pob gwlad.

Yn bwysig, dywedodd Mr Price y byddai’r fath Gydffederasiwn Brytannaidd yn gyson ag aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd – ac y byddai’n “llawer mwy dybryd ac angenrheidiol” pe bai’r Deyrnas Unedig yn gadael yr UE.

Cefnogodd ddata o bôl gan YouGov a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yr honiad fod yna duedd esgynnol mewn cefnogaeth i annibyniaeth, gyda chefnogaeth gymedrig wedi tyfu o 3.8 yn 2017 i 4.4 yn 2019. Dangosodd y pôl hefyd fod tyfiant neilltuol mewn chwilfrydedd am annibyniaeth ymhlith pleidleiswyr Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol – yn enwedig yn achos Brexit heb fargen.

Wrth ysgrifennu am y pôl, dywedodd Dafydd Trystan: “mae’r cyfeiriad teithio yn glir – mae llawer mwy o bleidleiswyr yn fodlon ystyried posibilrwydd [annibyniaeth] […] Mae etholwyr Cymreig yn fwyfwy chwilfrydig am annibyniaeth, ac mae’r newid hwnnw’n fwyaf amlwg ymhlith pleidleiswyr Llafur.”

Mae polau eraill a gynhaliwyd yn 2014, 2016, a 2018 wedi awgrymu fod cefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu ar raddfa o ryw 2% yn flynyddol ers 2014. Mewn pôl gan Sky fis Rhagfyr 2018 roedd cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru ar 20% mewn cwestiwn ie/na.

Yn yr araith yn y Ganolfan ar Newid Cyfansoddiadol, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC:

“Rydym eisiau adnewyddu gwleidyddiaeth ar yr ynys hon. Ac rydym eisiau newid y ffordd y llywodraethir ei gwledydd cyfansawdd a sut maen nhw’n ymdrin â’i gilydd. Oherwydd, beth bynnag arall, mae Prydain eisoes wedi torri. Hyd yn oed pe bawn ni ag awydd gwneud, nid oes angen inni dorri Prydain i fyny. Mae Brexit yn gwneud hynny drostom ni.

“Mae Brexit wedi dodi Prydain ar stop, a thra ei bod yn sefyll yn stond – heb lyw ac heb lywodraeth – mae’n mynd yn racs, nid dim ond ar yr ochrau, ond trwy gydol ei gwleidyddiaeth. Yn y cyfamser, mae gweddill y byd yn symud ymlaen, mae newid technolegol yn parhau, ac mae newid hinsawdd yn cyflymu.

“Byddwn i’n awgrymu fod y cydweithredu agos sydd wedi datblygu rhwng y gwledydd Benelux – Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg – yn fodel gryfach ar gyfer perthnasau rhwng gwledydd Prydain yn y dyfodol.

“Mae’n fater o ddod o hyd o ffyrdd newydd, mwy annibynnol, a hefyd mwy cyfartal o gydweithio – ffyrdd rwy’n credu y bydd yn fwy cyfforddus ac yn sicr yn fwy cydnaws.

“Rydym eisiau creu Cymru newydd, mae hynny’n wir. Ond ni fydd hynny’n bosibl oni bai ein bod ar yr un pryd yn rhan o greu Prydain newydd. Bydd hon yn Brydain ble mae ei thair cenedl yn cydfyw mewn cydraddoldeb a, thrwy hynny, mewn cytgord.”

Wrth drafod model Benelux, aeth Mr Price ymlaen i ddweud:

“Byddwn i’n dadlau fod y dair gwlad wedi mwyhau a chryfhau eu sofreniaeth trwy ddod â’u pwerau ynghyd o fewn Benelux a’r Undeb Ewropeaidd. Trwy gydweithredu’n agos maen nhw wedi ennill mwy o hyblygrwydd a chyrhaeddiad wrth weithredu pŵer cenedlaethol, maen nhw wedi tyfu eu heconomïau, ac wedi cynyddu eu dylanwad ar lwyfan y byd.

“Felly, byddwn i’n dadlau, mae’r gyfatebiaeth yno yn barod am yr hyn a fyddai’n bosibl gyda Chydffederasiwn Brytannaidd rhwng Lloegr, yr Alban, a Chymru.

“Gellid bod cydweithredu gwleidyddol mewn cynulliad neu senedd Brydain-gyfan, ac ynddi gynrychiolwyr o Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a’r hyn fyddai erbyn hynny’n Dŷ Cyffredin Lloegr. Gallai gyfarfod yng Nghaerdydd.

“Gellid bod Cyngor Gweinidogion, a fyddai’n esblygiad o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogol yn Swyddfa’r Cabinet, ond wedi’i ailsefydlu ar sail cydraddoldeb rhwng y partneriaid cydffederal. Gallai gyfarfod yn Llundain – neu pam lai Lerpwl? Y ddinas fwyaf Eingl-Geltaidd a holl ddinasoedd Lloegr.

“A gellid bod strwythur llysoedd barn newydd, gyda’r Goruchaf Lys presennol yn gweithredu fel llys uwch, cydffederal, yn uwch na Uchel Lysoedd Cymru, yr Alban a Lloegr, ond yn is na system lysoedd Ewrop. Gallai gyfarfod yng Nghaeredin.

“Byddai hyn oll yn gwbl gyson â Phrydain yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ond byddwn i’n dadlau y byddai’n llawer mwy dybryd ac angenrheidiol pe bai Prydain yn gadael.”

Darllenwch drawsgrifiad llawn araith Adam Price yma

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.