Adleoli Channel 4 yn tanlinellu'r amgen am gyfryngau gwir Gymreig

raf_(1).jpg

Mae angen mwy na hashnodau i greu cyfryngau '#4AllTheUK'.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Ddiwylliant yn San Steffan, Ben Lake AS, wedi ailadrodd galwadau am ddatganoli darlledu a chyfryngau Cymreig sydd yn wirioneddol gynrychioliadol. Daw galwadau Mr Lake yn dilyn cyhoeddiad ar ddydd Mercher y bydd Channel 4 yn symud eu pencadlys o Lundain i Leeds.

Dewiswyd Leeds yn hytrach na Birmingham neu Fanceinion Fwyaf, oedd hefyd ar y rhestr fer. Cyhoeddodd y sianel hefyd y byddai 'canolfannau creadigol' yn cael eu creu ym Mryste a Glasgow. Wrth wneud y cyhoeddiad am yr adleoli, defnyddiodd Channel 4 yr hashnod #4AllTheUK, er nad yw Channel 4 wedi ei chynrychioli yng Nghymru na Gogledd Iwerddon. 

Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers amser dros ddatganoli darlledu a chryfhau'r cyfryngau Cymreig i sicrhau gwell cynrychiolaeth ac atebolrwydd. Codwyd pryderon yn benodol am ddiffyg democrataidd posib, gydag arolygon barn yn gyson yn dangos mai'r cyfryngau Llundeinig sydd â'r dylanwad mwyaf yng Nghymru. Dengys tystiolaeth hanesiol ac o arolygon hefyd ddiffyg dealltwriaeth o'r rhaniad cyfrifoldebau dros feysydd polisi megis iechyd ac addysg rhwng llywodraethau San Steffan a Chymru.

Meddai AS Ceredigion, Ben Lake:

"Mae'r cyfryngau Llundeinig yn cael trafferth i gynrychioli bywyd ar ymylon yr M25, heb sôn am holl genhedloedd a rhanbarthau'r DG. Mae penderfyniad Channel 4 i symud eu pencadlys o'r tu allan i swigen Llundain i'w groesawu.

"Mae eu penderfyniad i adleoli i ogledd Lloegr yn siom i Gymru, wrth gwrs. Fodd bynnag, defnydd Channel 4 o'r slogan '4 all the UK' wrth wneud y cyhoeddiad oedd yn rhwbio halen i'r briw. Heb gynrychioli hanner y cenhedloedd sy'n ffurfio'r DG, dyw'r honiad hwn yn edrych fel dim mwy na slogan gwag.

"Mae cynrychiolaeth go-iawn ar y cyfryngau nid yn unig yn bwysig i hyder a hunaniaeth ein cenedl, ond i weithrediad ein democratiaeth hefyd.

"Dengys y polau diweddaraf mai llai na hanner y boblogaeth sy'n sylweddoli mai Llywodraeth Cymru, nid San Steffan, sydd yn gofalu am y GIG yng Nghymru. Heb gyfryngau Cymreig cryf, nid yw gwleidyddion Cymru yn atebol i'r bobl y maent yn eu cynrychioli.

"Y bobl yw'r gwrthbwys ar glorian democratiaeth. Heb ddinasyddion deallus, fydd dim i ddal llywodraethau a chrewyr deddfau i gyfrif, a bydd penderfyniadau gwael yn cael eu gwneud.

"Datganoli darlledu yw'r cam cyntaf ar y ffordd i sicrhau y bydd gennym gyfryngau addas i bobl Cymru."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.