Rheoli ein Hadnoddau Naturiol
Pan ddaw’n fater o bwerau dros adnoddau, yr ydym ni’n credu y dylai pobl Cymru fod â rheolaeth lawn dros ein holl adnoddau naturiol, ein dyfroedd a’n tiroedd. Rhaid i ni gael annibyniaeth ynni i Gymru er mwyn i ni lwyddo i gael trosi gwyrdd a theg ar ein telerau ei hunain.
Credwn y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros bwerau ynni, heb unrhyw derfynau nac amodau yn cael eu gosod gan Lywodraeth y DG. Nid yw’n gwneud synnwyr o gwbl gosod terfyn penodol, 350MW o gynhyrchu ar hyn o bryd, sy’n golygu bod dwy drefn gynllunio yn bodoli ac y gall San Steffan roi caniatâd i ddatblygiadau ynni mawr heb gydsyniad pobl yng Nghymru.
Bydd Plaid Cymru yn gwneud yn siwr fod Cymru’n cymryd rheolaeth lawn dros Ystâd y Goron yng Nghymru, a ddatganolwyd i’r Alban ond nid eto i Gymru.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu mwy o fuddsoddi gan Ystâd y Goron mewn prosiectau ynni yn nyfroedd Cymru, a dylid dychwelyd yr elw o’r prosiectau hyn i Gymru. Dylid datblygu’r prosiectau hyn er lles anghenion Cymru, yn hytrach na’u hallforio, a dylid eu hasio gyda’r grid trydan, y system gynllunio a ffactorau eraill, i gael y canlyniadau gorau i Gymru. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cadwyni cyflenwi lleol mewn contractau yn y dyfodol am ddatblygiadau ynni adnewyddol ar Ystâd y Goron yng Nghymru, gan ddatblygu a chefnogi ein diwydiannau lleol.
Daw hyn yn Gronfa Cyfoeth Sofran i Gymru, fel ein bod yn buddsoddi’r elw yn ein cenedlaethau i ddod.
Byddai rheolaeth dros ddŵr yng Nghymru yn caniatáu i’r Senedd osod targedau amgylcheddol uwch ar ansawdd dŵr, a phrisiau is, lle bo modd. Rhaid datrys sgandal presennol ansawdd dŵr, ac ni ddylid byth gadael iddo ddigwydd eto. Buasem yn rhoi ar waith adran 48(1) Deddf Cymru 2017, fyddai’n asio’n llwyr gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr gyda ffin ddaearyddol Cymru. Buasem hefyd yn gofyn yn ffurfiol am bwerau gan y DG dros drwyddedu carthffosiaeth yng Nghymru.