Roedd Plaid Cymru yn llygad ei lle yn gwrthwynebu rhyfel Afghanistan yn 2001 – Hywel Williams AS yn ysgrifennu yn y Sunday Times

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Rhyngwladol, Hywel Williams AS, heddiw (Sul 5 Medi) wedi dweud fod methiant rhyfel Afghanistan yn dangos ei bod “yn bryd ffarwelio am byth â rhodres gwenwynig ‘Prydain Fyd-eang’”.

Wrth ysgrifennu yn rhifyn Cymreig y Sunday Times, dywed Mr Williams, er i’r ymgyrch fod yn “drychineb” i’r gorllewin, na fu fawr ddim adlewyrchu ar y penderfyniad i fynd i ryfel yn y lle cyntaf. Dim ond 17 AS a bleidleisiodd yn erbyn ymyrraeth filwrol yn 2001, gan gynnwys grŵp Plaid Cymru. Hywel Williams yw un o bedwar yn unig o’r 17 AS hynny sydd yn dal yn y Senedd heddiw.

Plaid Cymru oedd yr unig un o’r prif bleidiau i wrthwynebu’r rhyfel yn Afghanistan o’r cychwyn cyntaf, gan gwestiynau amcanion milwrol yr ymgyrch a’r tactegau a ddefnyddiwyd. Dywed Mr Williams fod y blaid wedi rhybuddio ar y pryd y byddai “diffyg pwrpas a ddiffiniwyd yn glir i’r ymgyrch a nod cyffredinol niwlog, heb strategaeth gadael na strategaeth i fynd i mewn, yn arwain at  gael ein dal mewn dryswch dros y tymor hir.”

Dadleua Mr Williams y dylai’r methiant yn Afghanistan orfodi Llywodraeth y DG i “ail-feddwl” am ei pholisi tramor ac “ffarwelio â rhodres gwenwynig ‘Prydain Fyd-eang’ yn rheoli tonnau, tiriogaethau a’r wybren ym mhellafoedd byd.”

Ysgrifenna Mr Williams:

“Mae’n druenus o ddiniwed dweud yn unig fod y gorllewin wedi ei gorchfygu, ac yn wir wedi dioddef trychineb. Profwyd bod ei daliadau, ei strategaeth a’i thactegau o ran gosod ei pholisïau ar eraill yn fethiant. Ymhellach, profwyd bod grym milwrol oedd i fod yn anorchfygol a ffurfiau o ddemocratiaeth a drawsblannwyd yn swta yn annigonol.

“Mae’r llanast hwn mor arwyddocaol i’r Gorllewin ag y bu argyfwng Suez i’r DG, ond ar raddfa fwy o lawer. Yr oedd Suez yn nodi terfyn syniadau imperialaidd cyfeiliornus un wlad ganolig a chychwyn ffurfiau llai agored o goloneiddio, er eu bod yr un mor wenwynig. Ond mae cael eu trechu yn Afghanistan wedi peri i un o bwerau mawr y byd aros yn stond. Bydd y sawl sydd am gymryd lle’r pŵer hwnnw yn barod iawn i geisio llenwi’r gwagle.”

Aiff yn ei flaen:

“Yn 2001, fi oedd un o 17 AS yn unig a bleidleisiodd yn erbyn yr ymyrraeth filwrol. Pan gyhoeddodd Plaid Cymru ein penderfyniad i wrthwynebu’r rhyfel ar seiliau dyngarol, cawsom ein disgrifio fel pobl oedd eisiau gor-gymodi. Dywedwyd wrthym fod gweithredu milwrol yn hanfodol er mwyn trechu’r bygythiad terfysgol, er na ddatganwyd unrhyw nod clir i’r rhyfel nac unrhyw esboniad o sut y byddai bomio dilyffethair, ymosodiadau drôn, gweithrediadau gan luoedd arbennig, a goresgyniad yn y pen draw yn arwain at heddwch.

“Cwestiynodd arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn 2001, Elfyn Llwyd, amcanion milwrol yr ymgyrch a’r tactegau a ddefnyddiwyd. Dywedasom o’r dechrau y byddai diffyg pwrpas a ddiffiniwyd yn glir i’r ymgyrch a nod cyffredinol niwlog, heb strategaeth gadael na strategaeth i fynd i mewn, yn arwain at  ddal mewn dryswch dros y tymor hir.

“A dyna ddigwyddodd. Yn 2007, dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru yn awr, ‘oherwydd i ni fod â rhan yn y goresgyniad yn 2001, yr ydym yn rhan o’r broblem, nid yr ateb’. Fe wnaethom alw am strategaeth gadael oedd yn golygu tynnu lluoedd Prydain ac America allan, a rhoi yn eu lle lu rhyngwladol o filwyr o wledydd nad oedd wedi eu cyffwrdd â’r ymwneud yn y goresgyniad. Rhybuddiodd, petai Prydain ac America yn parhau i weithredu’n filwrol, y byddai’n rhoi llwyfan propaganda i’r Taliban na allai fyth ddiweddu’n heddychlon.”

I gloi, dywed:

“Y mae Joe Biden yn awr yn dweud fod oes ‘gweithredu milwrol mawr i ail-wneud gwledydd eraill’ drosodd. Hawdd y gall y gwledydd niferus hynny y mae lluoedd arfog America a chynghreiriaid eraill ynddynt fod yn amheus.

“Mae’n hen bryd i’r DG ail-feddwl ei pholisi tramor, y modd y mae’n defnyddio ei grym milwrol a sut y mae’n sicrhau cydsyniad gwleidyddol democrataidd gartref i unrhyw weithred o’i heiddo. Aeth 65 mlynedd heibio ers Suez.  Mae’n amser ffarwelio am byth â rhodres gwenwynig ‘Prydain Fyd-eang’ yn rheoli tonnau, tiriogaethau a’r wybren ym mhellafoedd byd.”