Plaid Cymru yn amlinellu Araith amgen y Frenhines

Brexit_Poll_image.jpg

Mae Plaid Cymru wedi datgelu Araith amgen y Frenhines, gan gynnwys mesurau i gyflwyno refferendwm llais terfynol ynghylch a ddylai’r Du adael yr UE, rhaglen eang o fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd, a datganoli plismona.

Bydd Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno eu rhaglen ddeddfwriaethol heddiw (14 Hydref), ar ffurf Araith y Frenhines.

Ochr yn ochr â’r tair blaenoriaeth allweddol yn yr agenda deddfwriaethol amgen, galwodd Plaid Cymru am fesurau i unioni anghydraddoldeb daearyddol ar draws y DU a chreu Swyddfa Cyllido Teg, pecyn o fesurau i helpu menywod yr effeithiodd y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth arnynt, a mesur i sicrhau na thorrir cefnogaeth i amaethyddiaeth.

Beirniadodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS yr angen am Araith y Frenhines ar ddydd Llun, gan ddweud ei bod yn “ffwlbri llwyr” i blaid sy’n galw am etholiad i osod allan gwerth blwyddyn o ddeddfwriaeth.

Dyma’r tri mesur allweddol y mae Plaid Cymru yn galw amdanynt:

  • Mesur Refferendwm Llais Terfynol – gyda’r Senedd wedi cloi, mae angen deddfwriaeth i gymryd y penderfyniad am adael yr UE neu beidio, gan wybod beth a wyddom yn awr, yn ôl at y bobl.
  • Mesur Ail-gydbwyso Ynni Adnewyddol - sefydlu strategaeth economaidd a buddsoddiad cyhoeddus pymtheng mlynedd gwerth £20biliwn fydd yn rhoi blaenoriaeth i ynni adnewyddol, gyda’r nod o ail-gydbwyso economi’r DG a meddu ar yr amcan cyffredinol o fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd.
  • Mesur Datganoli Plismona - nid yn unig y bydd datganoli plismona i Gymru yn rhoi chwistrelliad o arian- tua £25miliwn - i heddluoedd Cymru, ond bydd hefyd yn caniatáu i Gymru ddod a gwasanaeth gwell a mwy unedig i bobol Cymru mewn ffordd sydd yn ateb anghenion ein cymunedau yn well.

Meddai Liz Saville Roberts AS:

“Yn y bôn, mae galw am etholiad ac ar yr un pryd amlinellu rhaglen ddeddfwriaeth a gymer flwyddyn – neu flynyddoedd, efallai – yn ffwlbri llwyr.

“Wedi dweud hynny, rydym am gael Araith y Frenhines. Fodd bynnag, ni fydd yn gallu ateb y cwestiwn mwyaf sydd yn wynebu pedair cenedl y DG - Brexit. Mae’r ateb yn syml – pasio deddfwriaeth i fynd ag ef yn ôl at y bobl mewn refferendwm llais terfynol.

“Bydd heddiw yn llawn o ymffrost a geiriau gwag. Ond mae problemau mawr yn galw am atebion mawr, ac nid dyna fyddwn ni’n gael.

“Ar yr amgylchedd, anghydraddoldeb neu’r cyfansoddiad, mae Plaid Cymru yn cynnig atebion, ond bydd San Steffan yn parhau i anwybyddu Cymru. Dyna pam fod arnom angen y pwerau i wneud y gwaith ein hunain.”


Dangos 1 ymateb

  • Benjamin O'Keeffe
    published this page in Newyddion 2019-10-14 20:38:08 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.